Ailddechrau chwilio am fenyw sydd ar goll ers 30 mlynedd
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn ymchwilio o'r newydd i ddiflaniad menyw sydd wedi bod ar goll ers dros 30 mlynedd.
Fe ddiflannodd Susanne Llewellyn-Jones ar ôl i'w gŵr roi lifft iddi i orsaf drenau Caerdydd ym mis Ebrill, 1980.
Roedd y ddynes 34 oed wedi dweud ei bod hi am fynd ar y trên i Lundain i weld ffrindiau. Ond dyw hi ddim yn glir a gyrhaeddodd hi ai peidio.
Er bod yna ymholiadau wedi ei gwneud ar y pryd, chafodd hi ddim ei darganfod.
Mae dyn 68 oed o Fro Morgannwg wedi cael ei holi ynghylch ei diflaniad ar ôl iddo fynd i orsaf heddlu Bae Caerdydd o'i wirfodd ddydd Llun.
Cysylltu gydag unigolion
Roedd Mrs Llewellyn-Jones yn byw yn Llandaf ond yn dod yn wreiddiol o Gaerlŷr.
Cafodd y fam i ddau o blant ei disgrifio fel menyw fain gyda gwallt melyn a llygaid brown. Pan ddiflannodd hi roedd ganddi ei phasport a'i thrwydded gyrru.
Roedd ei ffrindiau yn ei galw yn 'Sue'.
Mae'r heddlu yn y broses o gysylltu gydag unigolion oedd adnabod hi a'i theulu yn yr 1980au.
Maent hefyd wedi cyhoeddi llun sydd yn dangos sut y gallai fod yn edrych heddiw, yn 68 oed.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth berthnasol i gysylltu â nhw trwy ffonio gorsaf heddlu Caerdydd ar 02920 571530, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.