Merch oedd ar goll wedi mynd adref

  • Cyhoeddwyd
Stephanie GabrielFfynhonnell y llun, SW Police
Disgrifiad o’r llun,
Doedd neb wedi gweld Stephanie Gabriel ers nos Wener

Mae merch 14 oed oedd heb gael ei gweld ers nos Wener Tachwedd 1 wedi dychwelyd i'w chartref yn Abertawe.

Roedd Heddlu'r De wedi gofyn am gymorth y cyhoedd wrth geisio dod o hyd i Stephanie Gabriel wedi iddi adael cartref ei theulu yn Nhregwyr, Abertawe.

Mae'r heddlu bellach yn dweud ei bod wedi dychwelyd adref nos Fawrth.

Roedd yn heddlu'n dymuno diolch i'r cyhoedd am y cymorth a gafwyd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol