Abertawe: Ffordd wedi cau yn rhannol yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Y gwasanaethau brys yn ymateb i ddigwyddiadau yn Abertawe
Disgrifiad o’r llun,
Damwain ar lôn yn Abertawe

Mae'r A483 Ffordd Fabian yn Abertawe ar y ffordd allan o'r ddinas wedi ei chau yn rhannol oherwydd dau ddigwyddiad, damwain cerbyd a thanwydd wedi ei ollwng ar y lôn.

Mae'r heddlu yn rheoli traffig rhwng Rhes Bevan, Teras Bro Wern a Chilgant Baldwin lle mae damwain un cerbyd wedi digwydd.

Yn ogystal mae'r heddlu yn delio gyda'r ail ddigwyddiad ar Bont Baldwin ger Celtic Mowers. Roedd y ffordd wedi ei chau am tua dwy awr.

Mae un lôn wedi agor bellach.