Lledaenu 3,000 tunnell o ro ar draethau Amroth a Niwgwl
- Cyhoeddwyd

Yn y dyddiau nesaf bydd tîm o sefydliad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn lledaenu 3,000 tunnell o ro ar ddau draeth yn Sir Benfro i atal llifogydd.
Daw'r gwaith brys oherwydd peryglu i lonydd, tai a meysydd carafannau nepell o draethau Amroth a Niwgwl.
Oherwydd y gwyntoedd cryfion a llanw uchel dros y penwythnos mae gro a thywod wedi cael eu taflu o'r traeth gan flocio dŵr ar y traethau.
Ar hyn o bryd mae'r ceuffosydd wedi eu blocio a lefelau dŵr yn nentydd Trelissey yn Amroth a Nant Brandy yn Niwgwl yn codi'n raddol.
Dywed CNC fod y gwaith yn hynod bwysig yn enwedig pe bai'r tywydd yn parhau'n ansefydlog dros fisoedd y gaeaf.
Meddai Neil Davies o CNC: "Ar ôl tywydd garw dros y penwythnos, mae'n rhaid sicrhau fod pob rhwystr yn cael eu clirio cynted a bo modd.
"Roedden ni ar alw dros y penwythnos yn cadw llygad ar amddiffynfeydd llifogydd ac yn ymateb i unrhyw broblemau. Nawr, rydym yn sicrhau fod unrhyw ddifrod yn cael ei drwsio.
"Os bydd unrhyw un yn gweld unrhyw rwystrau neu ddifrod sy'n codi pryder, rydym yn eu hannog i ffonio'n llinell gymorth ar 0800 80 70 60 er mwyn i ni allu ymateb neu gysylltu ag asiantaethau eraill i ateb y broblem."
Straeon perthnasol
- 4 Tachwedd 2013
- 3 Tachwedd 2013
- 2 Tachwedd 2013