Cynnydd ym mhoblogaeth Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i boblogaeth Cymru gynyddu o 4% i 3,190,000 erbyn 2022, yn ôl y ffigyrau diweddara i gael eu rhyddhau gan y Swyddfa Ystadegau.

Y prif reswm dros y cynnydd fydd mewnfudo.

Mae hefyd disgwyl i'r nifer o enedigaethau fod ychydig bach yn uwch na nifer y marwolaethau.

Bydd y boblogaeth yn heneiddio gyda chynnydd o 50% rhwng 2012 a 2037 yn y nifer o bobl sydd dros 65 oed.

Mae disgwyl i nifer y plant o dan 16 oed gynyddu 2% rhwng 2012 a 2037.

Ond y gred yw yw y bydd nifer y bobl oedran gwaith (16-64) yn gostwng 3% (60,000) rhwng 2012 a 2037.

O gymharu â rhannau eraill o wledydd Prydain mae disgwyl i boblogaeth Cymru gynyddu o'r un maint a'r Alban 4% erbyn 2022, ond llai na Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Erbyn 2037 mae disgwyl i boblogaeth Lloegr gynyddu 16%, Gogledd Iwerddon 10% o'i gymharu â chynnydd o 8% yng Nghymru.