Ap newydd yn hwb i archeolegwyr

  • Cyhoeddwyd
Darn o arianFfynhonnell y llun, BBC news grab

Fe fydd ap newydd sydd wedi cael ei gynhyrchu gan Brifysgol De Cymru yn galluogi i holl archifau archeolegol Cymru fod ar gael ar ffôn symudol.

Dywed ymchwilwyr mae Cymru fydd y wlad gyntaf i sicrhau datblygiad o'r fath ar un safle - Archwilio App.

Cafodd y gwaith ei gomisiynu gan y pedwar ymddiriedolaeth archeolegol yng Nghymru.

Bydd y safle newydd yn cael ei lansio yn swyddogol gan weinidog Treftadaeth Cymru, John Griffiths, ddydd Iau yn amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Yn ôl llefarydd ar ran y brifysgol fe fydd y ddyfais yn "caniatáu i ddefnyddwyr gael mynediad i gyfoeth o wybodaeth archeolegol sy'n bendoll i Gymru.

"Fe fydd yn adnodd pwysig o ran addysg, ac yn gwella ein dealltwriaeth o bwysigrwydd y gwaith archeolegol sydd wedi ei wneud yng Nghymru.

"Fe fydd o hefyd yn galluogi pobl sut i deithio i wahanol lefydd yng Nghymru er mwyn dysgu am bwysigrwydd a threftadaeth safleoedd archeolegol."

Bydd Archwilio App ar gael yn rhad ac am ddim i ddefnyddwyr.

Y pedwar ymddiriedolaeth sy tu cefn i'r fenter yw Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys, Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg -Gwent ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol