Apêl i ddod o hyd i lanc 13 oed o Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Does neb wedi gweld Alexander Jones ers iddo adael ei gartre' yn Wrecsam nos Sul
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn chwilio am lanc yn ei arddegau sydd ar goll yn Wrecsam.
Does neb wedi gweld Alexander Jones, 13 oed, ers ddydd Sul.
Fe adawodd ei gartre' yn Wrecsam am 6:30yh y noson honno.
Bryd hynny, roedd yn gwisgo tracwisg ddu a siwmper ddu.
Yn ôl yr heddlu, mae'n ymweld yn aml â chanol dinas Manceinion a Maes Awyr Manceinion.
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth am Alexander ac yn gofyn i unrhyw un sydd wedi ei weld neu sy'n gwybod ble y gallai fod i gysylltu â nhw ar 101.