Darlithydd wedi marw 'trwy ddamwain'
- Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed sut y bu farw darlithydd ifanc dawnus pan gafodd ei daro gan fwced oedd yn rhan o jac codi baw wnaeth ei wasgu yn erbyn wal.
Dyfarnodd y crwner Dewi Pritchard-Jones y bu farw Eilir Hedd Morgan, oedd yn 29, drwy ddamwain, wedi i got y ddynes oedd yn gweithio ar y cloddiwr gydio mewn lifer.
Digwyddodd y ddamwain fis Ebrill diwethaf ar ffarm yn Llanrug lle'r oedd Dr Morgan yn aros.
Roedd Dr Morgan yn darlithio yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mhrifysgol Bangor.
Roedd yn helpu gyda'r gwaith o ailadeiladu ar yr eiddo lle'r oedd yn aros fel lletywr, lle'r oedd y jac codi baw yn cael ei ddefnyddio i dorri'r concrid.
Dywedodd y patholegwr Dr Mark Lord fod y farwolaeth wedi ei achosi gan anaf i'r pen, oedd yn cyd-fynd gyda'r math o anaf fyddai'n ddisgwyliedig gan fwced yn taro ei ben a'i wasgu yn erbyn wal.
Wrth gofnodi ei ddyfarniad dywedodd y crwner Mr Pritchard-Jones fod y ddamwain wedi ei hachosi "yn gyfan gwbl oherwydd bod y lifer wedi cael ei ddal gan y got" a nad oedd hynny yn rhywbeth all fod wedi ei ragweld.
Mewn datganiad, dywedodd teulu Dr Morgan: "Dymunwn, fel teulu, gydnabod gwaith yr heddlu a phawb a fu ynglŷn â'r ymchwiliad i farwolaeth Eilir Hedd Morgan - mab arbennig, brawd, cariad a ffrind i lawer.
"Mae'n anodd iawn dod i delerau â'n colled enbyd ond mae'n gysur gwybod bod Eilir wedi cyflawni cymaint yn ei fywyd byr a'i fod o wedi golygu cymaint i gynifer o bobl. Mae o wedi ein gadael efo llu o atgofion melys."
Aeth Dr Morgan i Fangor yn wreiddiol yn 2002 i astudio bywydeg y môr, gan aros yno i wneud cwrs meistri mewn bywydeg pysgodfeydd pysgod cregyn a rheoli ac fe lwyddodd yn y cwrs hwnnw gyda rhagoriaeth yn 2007.
Yna fe wnaeth ddoethuriaeth a chafodd ei benodi i rôl pum mlynedd fel y darlithydd cyfrwng Cymraeg cyntaf mewn ecoleg y môr.
Dywedodd y brifysgol: "Roedd wedi ymrwymo i'r iaith Gymraeg ac roedd yn llysgennad arbennig i'r brifysgol ac i Gymru."
Straeon perthnasol
- 2 Ebrill 2013