Cofio Darwin Cymru

  • Cyhoeddwyd
Alfred Russel Wallace
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Cymru'n agos iawn at galon Wallace

Can mlynedd yn ôl bu farw athrylith o Gymro sy'n cael ei gofio'n bennaf fel y dyn wnaeth ddarganfod esblygiad yr un pryd a Charles Darwin.

Ond roedd Alfred Russel Wallace yn amryddawn ac mae'n cael ei gofio ym myd gwyddoniaeth am ei gyfraniad i sawl maes ac mae'n cael ei ystyried fel tad un gangen o wyddoniaeth sef "tad biodaearyddiaeth".

Does dim dwywaith fod gwaith Wallace wedi chwarae rhan bwysig yn y broses wnaeth arwain at gyhoeddi On the Origin of Species gan Charles Darwin.

Yn wir, fe gyhoeddodd y ddau ddyn y darganfyddiad gyda'i gilydd ym mis Gorffennaf 1858.

Ond mae llu o resymau eraill pam dylid cofio am y gŵr o Gastell Nedd, yn ôl curadur arddangosfa am ei fywyd a'i waith sydd yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd.

Cefndir Cymreig

"Mae stori fawr i'w hadrodd am ei fywyd ar achlysur canmlwyddiant ei farwolaeth, ac er bod posib dadlau ynglŷn ag oedd e'n Gymro a'i peidio, rwy'n credu fod digon yna i ni allu ei ystyried yn y ffordd yna," meddai Julian Carter o Amgueddfa Cymru.

Ganwyd Wallace yn Llanbadog Fawr yn seithfed o naw o blant ac fe symudodd i Henffordd ac yna i Lundain pan yn blentyn, cyn dychwelyd i Gastell Nedd i weithio fel prentis i'w frawd pan oedd yn 16 oed.

"Mae'r arddangosfa yna i roi blas i bobl o fywyd Wallace ac mae hyn yn cynnwys ei berthynas â Chymru.

"Does dim dwywaith fod Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn ei fywyd ac mae'n son yn aml yn ei lyfrau am yr effaith cafodd tirwedd a phobl Cymru ar ei ddatblygiad.

"Yn ei hunangofiant mae'n son am sut roedd wrth ei fodd yn mynd i'r capel a gwrando ar yr iaith Gymraeg a hefyd am ei gariad tuag at fro Castell Nedd a'r ffermwyr a'r bobl eraill oedd yn byw yno."

Cafodd chwilfrydedd naturiol Wallace ei ddatblygu'n bellach pan fuodd gyfarfod dyn o'r enw Henry Bates pan yn gweithio am gyfnod yng Nghaerlŷr.

Pryfaid yn ennyn chwilfrydedd

Entomolegydd oedd Bates - arbenigwr ar bryfaid - a dyma efallai wnaeth sbarduno diddordeb Wallace mewn casglu bywyd gwyllt.

Disgrifiad o’r llun,
Wallace yn 1862 pan roedd yn teithio o amgylch ardal Malai

Fe symudodd Wallace yn ôl i Gastell Nedd yn 1845 pan roedd yn 22 wedi i'w frawd William farw.

"Yn ystod yr adeg yma roedd ef a Bates yn parhau i fod mewn cysylltiad ac fe wnaeth eu brwdfrydedd eu harwain i ddarganfod a darllen rhai o lyfrau allweddol y dydd," meddai Julian Carter, "gan gynnwys llyfr Darwin am ei deithiau ar y Beagle."

Aeth Trip cyntaf Wallace - a'i gyfaill Bates - ag ef i lawr yr Amazon, lle buodd yn casglu samplau o fywyd gwyllt i'w hel yn ôl i Brydain, yn ogystal ag ymddiddori ei hun drwy ystyried yr hyn roedd wedi ei ddarllen - sef damcaniaethau ynglŷn â sut mae bywyd yn datblygu.

Helbul yn y jwngwl

"Yn ystod yr amser roedd yn teithio hyd yr Amazon a'r Rio Negro, roedd Wallace yn casglu pob math o samplau gwahanol o adar, chwilod, ieir bach yr haf er mwyn eu gyrru'n ôl i Lundain ar gyfer casglwyr Victorianaidd oedd eisiau gorffen eu casgliadau.

"Roedd hi'n amser caled iawn iddo yno yn brwydro'n erbyn afiechydon fel malaria a heintydd bacteriol ac yn ceisio atal cŵn rhag rhedeg i ffwrdd gyda'i waith."

Wedi trafferth gyda swyddogion oedd yn gwrthod gadael i Wallace ddychwelyd gyda'i gargo oherwydd nad oedd wedi llenwi'r gwaith papur yn iawn, fe hwyliodd Wallace yn ôl am Brydain.

Yn anffodus fe aeth y cwch ar dan ar y ffordd a treuliodd y teithwyr gyfnod o ryw ddeng niwrnod yn ceisio goroesi yn y môr.

Gweledigaeth mewn breuddwyd

Fe'i hachubwyd ond roeddent wedi colli eu holl eiddo.

Wnaeth Wallace ddim gadael i hyn ei ddal yn ôl - aeth ymlaen i deithio o amgylch Malai: "Roedd wedi cael ei ddylanwadu gan rai o lyfrau oedd wedi cael ei ysgrifennu ynglyn a'r broses o esblygiad, a pan roedd yn sownd yn Borne yn ystod y tymor glawiog, fe ddechreuodd ei ymennydd gysylltu'r holl bethau yma gyda'i gilydd."

Fe ysgrifennodd Wallace bapur o'r enw Sarawak's Law - papur aeth ymlaen i fod yn sail ar gyfer cangen o wyddoniaeth sy'n cael ei alw'n fiodaearyddiaeth.

Yma hefyd, tra yn y gwely gyda thwymyn, y daeth y syniad o esblygiad drwy ddetholiad naturiol iddo.

Nid yw Mr Carter yn cytuno gyda rhai sy'n dweud fod Darwin wedi dwyn y syniad gan Wallace - mae'n credu fod y ddau yn rhan o broses oedd yn datblygu'n raddol tuag at y syniad yr adeg honno.

"Efallai bod Wallace yn falch o'r ffaith bod Darwin wedi ysgrifennu On the Origin of Species gan ei fod yn faich oddi ar ei ysgwyddau!"

Mae'r arddangosfa ar fywyd Alfred Russel Wallace i'w weld yn Amgueddfa Caerdydd tan Mawrth 2014 lle gall ymwelwyr gael llawer mwy o wybodaeth am fywyd y gwyddonwr amryddawn

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol