Dodrefn swyddfa newydd: beirniadaeth y Ceidwadwyr
- Cyhoeddwyd

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am wario arian ar ddodrefnu swyddfeydd ym Mae Caerdydd.
Mae ffigyrau newydd gan y blaid yn dangos bod mwy na £600,000 o arian wedi ei wario ar ddodrefn yn y swyddfeydd yn Nhŷ Hywel.
Cafodd ryw £50,000 ei wario ar 88 o setiau teledu newydd a thua £75,000 ar 34 o fyrddau newydd. Roedd y byrddau yn costio dros £2,000 o bunnau yr un.
Gwario yn ddiangen
Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies mae'r data yn dangos bod blaenoriaethau'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn anghywir:
"Mae toriadau Llafur yn effeithio ar gynghorau ar draws Cymru ac mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru hefyd yn wynebu toriadau enbyd. Er hynny mae Llafur yn medru ffeindio miliynau i wario ar setiau teledu newydd, gliniaduron a seddi meddal.
"Jest am eich bod chi yn ail addurno'r stafell fyw, dydy hynny ddim yn golygu bod angen prynu setiau teledu newydd. Tra bod Carwyn yn eistedd yn y swyddfeydd moethus gwerth £3.2 miliwn ym mae Caerdydd mae cynghorwyr Llafur yn darogan armagedon i'r gwasanaethau cyhoeddus."
'Buddsoddi'
Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf mi gafodd mwy na £500,000 ei wario ar offer clywedol a fideo yn y swyddfeydd ym mharc Cathays a bae Caerdydd.
Dylai'r arian yma fod wedi cael ei wario ar bethau gwell meddai Andrew RT Davies: "Mi allai'r arian yma fod wedi cael ei ddefnyddio i greu cronfa ganser fel sydd yn bodoli yn Lloegr, buddsoddi mewn ffyrdd neu i gefnogi pobl sydd yn gweithio yn galed.
"Ond mae Carwyn Jones a'i gydweithwyr wedi penderfynu bod hi yn fwy pwysig i wneud yn siŵr bod Gweinidogion yn cael 88 o setiau teledu newydd."
Ond mae Llywodraeth Cymru yn dadlau ei bod nhw yn gwneud arbedion.
Gwaith yn angenrheidiol
Mi oedd yn rhaid adnewyddu'r swyddfeydd meddai llefarydd ar ran y llywodraeth: "Mae'r swyddfeydd yn Nhŷ Hywel wedi cael eu hailwampio am y tro cyntaf ers 14 mlynedd ac yn cynnwys gwaith i adfer difrod gafodd ei achosi gan ddŵr.
"Roedd hi yn hen bryd gwneud y gwaith yma ac yn angenrheidiol er mwyn gwella'r swyddfeydd i ddelio gyda gofynion ychwanegol.
"Mae'r llywodraeth yma yn gwneud arbedion sylweddol. O ganlyniad i weithredu ein strategaeth lleoliad ar gyfer 2010-15 rydyn ni wedi lleihau nifer y swyddfeydd lle rydyn ni yn gweithio ac ar y trywydd iawn i arbed £18m dros y cyfnod cyfan yn ogystal â £5m o arbedion ychwanegol o 2015."