Ysbyty'n rhan o ymchwiliadau Savile
- Cyhoeddwyd

Mae'r Adran Iechyd wedi cadarnhau bod Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn rhan o'r ymchwiliadau yn sgil honiadau am gam-drin rhywiol Jimmy Savile.
Roedd y manylion yn ateb Seneddol ysgrifenedig y Gweinidog Iechyd Norman Lamb.
Roedd y cyn Weinidog Plant Tim Loughton wedi gofyn pa ymchwiliadau oedd yn cael eu cynnal yn sgil yr honiadau.
Yr ateb oedd bod 13 ymchwiliad yn yr ysbytai canlynol: Ysbyty Brenhinol Leeds, Stoke Mandeville, Broadmoor, Ysbyty Seiciatrig High Royds, Ysbyty Dewsbury, Ysbyty Great Ormond Street, Ysbyty Moss Side, Ysbyty Caerwysg, Ysbyty Portsmouth, Ysbyty St Catherine, Penbedw, Ysbyty Brenhinol Caerdydd, Ysbyty Rampton ac Ysbyty Saxondale.
Y nod, meddai'r Gweinidog Iechyd, fyddai gorffen adroddiad terfynol pob ymchwiliad erbyn Mehefin 2014.
Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi rhyddhau datganiad yn esbonio natur yr ymchwiliad.
Mae'r datganiad yn dweud: "Gall Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro gadarnhau ei fod wedi ymchwilio i un honiad gan oedolyn mewn cysylltiad â digwyddiad honedig yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn y 60au cynnar.
"Mae'r bwrdd iechyd yn gweithio'n agos gyda Heddlu De Cymru a'r Adran Iechyd ar y mater ac nid yw mewn sefyllfa i wneud sylw pellach ar y funud."
Roedd Savile yn cyflwyno Top of The Pops a Jim'll Fix It yn y saithdegau a'r wythdegau a bu farw yn Hydref 2011 yn 84 oed.
Oherwydd yr honiadau yn erbyn Savile lansiodd yr heddlu Ymgyrch Yewtree.
Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi rhyddhau datganiad yn esbonio natur yr ymchwiliad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2012