Stuart Williams: 'Y dyn cadarn yn y cefn'

  • Cyhoeddwyd
Stuart Williams
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Williams yn un o hoelion wyth Cymru

Mae Stuart Williams, pêl-droediwr oedd yn aelod o dîm Cymru wnaeth gyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd yn 1958 wedi marw'n 83 oed.

Cafodd ei eni yn Wrecsam ac yno dechreuodd ei yrfa ym myd y bêl gron yn Awst 1949 pan oedd yn 19 oed.

Flwyddyn yn ddiweddarach cafodd ei arwyddo gan dîm prif gynghrair Lloegr West Bromwich Albion lle oedd yn flaenwr cyn chwarae yn y cefn.

Amddiffynnwr oedd Williams wedyn am weddill ei yrfa.

Cafodd ei gap cyntaf i Gymru yn 1954 mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Awstria.

Roedd yn aelod pwysig o'r tîm lwyddodd nid yn unig i gyrraedd Cwpan y Byd yn Sweden yn 1958 ond i orffen yn ail yn eu grŵp.

Dim ond tair gôl wnaeth Cymru ildio drwy gydol y gystadleuaeth diolch i raddau helaeth i waith diflino Williams yn y cefn.

'Ardderchog'

Brasil wnaeth eu curo yn y diwedd gyda Pelé ifanc yn sgorio unig gôl y gêm.

Dywedodd Pelé ar ôl y gêm fod amddiffyn Cymru bryd hynny yn "ardderchog".

Wedi ei gyfnod gyda West Brom aeth Williams ymlaen i chwarae i Southampton ac fe gafodd yrfa ddiddorol fel hyfforddwr wedyn, gan dreulio amser yn rheoli clwb Paykan o Iran a Viking FK o Norwy.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a West Bromwich Albion yn talu teyrnged iddo ar eu gwefannau.