Clo ar glwyd wedi parti noethlymun yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
'Labyrinth'Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Roedd rhai pobl leol wedi beirniadu'r "labyrinth" oedd wedi costio £5,000

Bydd labrinth yn Aberystwyth yn cael ei gau yn ystod y nos wedi i "ddwsinau" o bobl feddw ei defnyddio ar gyfer parti noethlymun.

Roedd aelod o'r cyhoedd wedi galw'r heddlu i gwyno bod tua 50 o yfwyr wedi bod yn rhedeg yn noeth neu'n hanner noeth.

Yn ôl tystiolaeth yr unigolyn, fe wnaeth y partïo bara am ryw hanner awr a chafodd ei blant ei ddeffro gan y sŵn a'r rhegi.

Clywodd cyngor y dre' gynnwys llythyr yr unigolyn yn eu cyfarfod diwetha'.

Dywedodd y Cynghorydd Ceredig Davies fod y cyngor wedi penderfynu cloi'r ddrysfa yn y nos.

"Rydyn ni'n dre' brifysgol ac mae pobol ifanc yn mwynhau eu hunain yn llawn asbri.

"Ond am resymau diogelwch rhaid i ni ddodi clo ar y glwyd."

£5,000

Roedd rhai pobl leol wedi beirniadu'r labyrinth ar gost o £5,000 yn y clwb bowlio cyn iddo gael ei agor a dweud ei fod yn "ddychrynllyd".

Mae'r heddlu wedi cadarnhau eu bod nhw wedi cael eu galw i ddelio gyda chriw o bobl ifanc oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol.

"Roedd galwad am 11.55pm ar Hydref 23 am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y parc ger Heol y Gogledd.

"Pan gyrhaeddodd yr heddlu fe ddywedon nhw wrth y criw i gael gwared ar eu sbwriel.

"Wedyn fe gafodd y criw gyngor ac roedd cais iddyn nhw adael."