Galw am atal recriwtio plant i'r fyddin

  • Cyhoeddwyd
Byddin
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gwrthod gwahardd recriwtio o dan 18 ar hyn o bryd

Mae pob esgob o'r Eglwys yng Nghymru wedi arwyddo llythyr yn galw ar y Weinyddiaeth Amddiffyn i roi'r gorau i recriwtio pobl dan 18 oed i'r fyddin.

Er nad yw'r fyddin yn caniatáu aelodau dan 18 i fynd i ymladd maen nhw'n parhau i recriwtio plant 16 oed.

Maen nhw hefyd yn gyrru swyddogion i ysgolion er mwyn hybu gyrfaoedd milwrol ond yn dadlau nad yw hyn yn gyfystyr â recriwtio.

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi amddiffyn y polisi gan ddweud bod gyrfa yn y fyddin yn cynnig nifer o fuddianau.

'Swyddi rheng flaen peryclaf'

Disgrifiad o’r llun,
Mae Archesgob Cymru Dr Barry Morgan yn un o'r rhai sydd wedi arwyddo'r llythyr

Y grŵp ymgyrchu Child Soldiers International sydd wedi ysgrifennu'r llythyr.

Yn ogystal â'r esgobion Cymreig mae arweinwyr crefyddol sy'n cynrychioli'r Bedyddwyr, y Methodistiaid, y Catholigion Rhufeinig a'r Crynwyr hefyd wedi ei arwyddo.

Mae'r llythyr yn dweud: "Rydym yn cymeradwyo'r Weinyddiaeth Amddiffyn am roi'r gorau i hel plant i faes y gad yn rheolaidd, ond yn herio ei fethiant i beidio â'u recriwtio nhw.

"Mae'r polisi recriwtio yn sianelu'r recriwtiaid fwyaf ifanc i'r swyddi ymladd rheng flaen peryclaf.

"Mae'r rheiny sy'n cael eu recriwtio yn 16 wedi wynebu dwbl y risg o farw drwy gydol y brwydro yn Afghanistan."

Yn ogystal, mae'r llythyr yn dweud mai 18 oedd yr oed recriwtio drwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf ac nad oedd bechgyn yn cael eu gyrru i ymladd nes eu bod yn 19.

'Sgiliau gwerthfawr'

Yn ôl Child Soldiers International, mae ei ymchwil yn dangos fod 880 o blant 16 oed wedi ymuno a'r fyddin y flwyddyn ddiwethaf.

Ond mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn dweud nad oes unrhyw gynlluniau ar y gweill i newid y polisi.

Meddai'r adran mewn datganiad: "Mae'r llythyr yma'n anwybyddu'r buddiannau a'r cyfloedd mae gyrfa filwrol yn gynnig i bobl ifanc. Mae'n eu darparu gydag addysg heriol ac adeiladol, hyfforddiant a swydd, gan eu harfogi gyda sgiliau gwerthfawr a trosglwyddadwy fydd gyda nhw am byth.

"Rydym yn parhau i recriwtio dros bob un o'r grwpiau oedran ac fel rhan o'n dyletswydd gofal tuag at ein recriwtiaid ni fydd unrhyw un dan 18 yn cael ymuno a'r Lluoedd Arfog heb gytundeb ysgrifenedig eu rhieni.

"Does dim cynlluniau ar hyn o bryd i ail edrych ar bolisi recriwtio'r llywodraeth ar gyfer rhai o dan 18 sydd yn cydymffurfio'n llwyr gyda Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn."

Ymchwiliad Cynulliad

Disgrifiad o’r llun,
William Powell yw Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau

Yn ddiweddar mae'r Cynulliad wedi bod yn cynnal ymchwiliad i'r mater o recriwtio mewn ysgolion.

Cymdeithas y Cymod yng Nghymru wnaeth lunio'r ddeiseb sy'n honni bod y "lluoedd arfog yn targedu ei recriwtio i ysgolion mewn ardaloedd fwyaf difreintiedig Cymru".

Fe dderbyniodd y Pwyllgor Ddeisebau 30 ymateb i'r ymgynghoriad ar y mater.

Mae'r fyddin wedi gwadu bod plant yn cael ei recriwtio mewn ysgolion gan ddweud "nid yw disgybl na myfyriwr ysgol yn cael eu cofrestru i'r Lluoedd Arfog yn ystod ymweliad i ysgol gan un o'n cynrychiolwyr".

Bydd aelodau o'r Pwyllgor Deisebau yn ymweld ag ysgol ym Mhrestatyn ddydd Llun fel rhan o'u hymchwil i'r mater.