Rhybudd dros newid budd-daliadau

  • Cyhoeddwyd
Kevin GreenFfynhonnell y llun, Kevin Green
Disgrifiad o’r llun,
Mae Mr Green yn dweud ei fod yn pryderu am les ei denantiaid

Mae landlord sy'n berchen ar dros 700 o dai yn y sector breifat yn credu y gallai newid i fudd-daliadau beryglu ei fusnes.

Pryder Kevin Green yw y bydd tenantiaid yn methu taliadau rhent pan mae system newydd o dalu budd-daliadau yn cael ei gyflwyno.

Mae'n dweud y gallai hynny olygu y byddai rhaid iddo roi'r gorau i roi llety i bobl sy'n derbyn budd-daliadau.

Yn ôl llywodraeth y DU, pwrpas y newidiadau yw gwneud y system les yn decach a'u bod yn gweithio i sicrhau y bydd landlordiaid yn derbyn eu taliadau.

Newidiadau

Mae Mr Green, entrepreneur sydd wedi ei leoli yn Sir Gar, yn credu mai ef yw'r landlord sector breifat fwyaf yn y DU.

Yn Llanelli mae'r rhan fwyaf o'r 762 o dai mae'n eu rhentu allan. Mae tua 60% o'i denantiaid yn derbyn budd-daliadau.

Yr wythnos ddiwethaf fe ddechreuodd y llywodraeth weithredu un o'i ddiwygiadau mawr i'r system les sef credyd cynhwysol. Bydd yn cael ei weithredu mewn camau rhwng nawr a Hydref 2017.

Bydd chwe budd-dal gwahanol - gan gynnwys y budd-dal tai - yn cael eu cyfuno i un taliad.

Dyw Mr Green ddim yn credu y bydd gan bobl y ddisgyblaeth i reoli eu harian yn gyfrifol.

'Ddim yn gallu rheoli arian'

"Yr hyn rydym yn weld," meddai, "yw os yw taliadau rhent yn cael ei roi yn nwylo'r tenantiaid dydyn nhw ddim yn cael eu dysgu yn yr ysgol na mewn addysg bellach sut i redeg eu tai a dydyn nhw ddim yn gallu rheoli eu harian."

"Mae'n mynd i arwain at ôl-ddyledion anferth. Gallai arwain yn y pen draw at ein busnes yn mynd i'r wal fyddai'n golygu na fyddwn ni'n gallu darparu tai ar gyfer bobl sy'n llai ffodus.

"Be mae'r llywodraeth am ei wneud? Sut maen nhw am roi cartref i'r bobl yma?"

Mewn datganiad, dywedodd yr Adran Waith a Phensiynau: "Mae ein diwygiadau yn adfer tegwch i system a oedd wedi mynd allan o reolaeth.

"Rydym yn gweithio nawr i sicrhau bod y mesurau diogelwch ac eithriadau cywir yn eu lle ar gyfer tenantiaid a landlordiaid cyn y credyd cynhwysol.

"Mae taliadau uniongyrchol yn rhan bwysig o'r credyd cynhwysol er mwyn ei gwneud yn haws i bobl gael gwaith, ond rydym wedi bod yn glir o'r dechrau y byddwn yn cymryd camau i amddiffyn pobl fregus."

Sunday Politics BBC 1 Cymru dydd Sul 12.25pm