Tân: tri yn yr ysbyty

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes a dau o blant wedi eu cludo i'r ysbyty wedi tân mewn tŷ yn Sir Gaerfyrddin fore Gwener.

Dechreuodd y tân ychydig wedi 4.00yb yng nghegin y tŷ ym Mhentrefelin ger Llandeilo.

Cafodd criwiau o Landeilo a Rhydaman eu galw a bu rhaid i ddiffoddwyr ddefnyddio offer anadlu arbennig i achub y ddynes.

Roedd rhaid defnyddio camera thermal i chwilio drwy'r mwg yn y tŷ.

Mae'r fflamau wedi eu diffodd ond nid yw'n glir beth oedd achos y tân.