Corff myfyriwr wedi ei ddarganfod
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi dod o hyd i gorff myfyriwr yng nghampws Prifysgol De Cymru yn Nhrefforest.
Dyw hi ddim yn ymddangos bod y farwolaeth yn un amheus ar hyn o bryd.
Cafwyd hyd i'r corff fore Mercher.
Mae prifysgol De Cymru yn dweud nad oes 'na berygl i'r myfyrwyr eraill.
Mae'r teulu wedi cael gwybod a'r heddlu bellach yn delio gyda'r mater.
Mae'r brifysgol yn cynnig cwnsela i unrhyw un sydd wedi ei effeithio gan y newyddion.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol