Cŵn yn sâl ar ôl bwyta gwenwyn

  • Cyhoeddwyd
Llun o'r gwenwynFfynhonnell y llun, Emma lamport and Jo Rees
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r braster gwenwynig wedi ymddangos ar draethau yn yr ardal

Mae pobl sydd efo cŵn yn cael ei rhybuddio i fod yn ofalus am fod yna wenwyn wedi ei ddarganfod ar draethau ym Mro Morgannwg.

Yn ôl y cyngor, dydy'r gwenwyn braster ddim yn beryglus i bobl cyn belled nad ydynt yn ei fwyta, ond mae'n achosi problemau os ydy cŵn yn ei fwyta.

Mae 'na nifer o gŵn wedi gorfod cael triniaeth frys gan filfeddygon am eu bod nhw wedi bod yn sâl.

Mae achosion tebyg wedi bod yng Nghernyw yn ddiweddar ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymryd samplau o'r gwenwyn.

Dywedodd y corff amgylcheddol y dylai pobl wneud yn siŵr nad ydy eu cŵn yn cyffwrdd y gwenwyn sydd yn cael ei ddisgrifio fel ryw fath o olew llysiau.

"Mae'n debygol bod 'na gysylltiad rhwng yr achosion yma a'r rhai ar arfordir gorllewin Lloegr dros y mis diwethaf," meddai llefarydd.

"Mi ddylai perchnogion cŵn fod yn wyliadwrus am fod anifeiliaid yn cael eu denu at y math yma o lygredd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol