Carfan Cymru: nifer yn dychwelyd
- Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi carfan y tîm cenedlaethol ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Y Ffindir ar Dachwedd 16.
Cafodd y garfan ei chyhoeddi ar e-bost wedi i'r Gymdeithas ganslo'r gynhadledd newyddion sy' fel arfer yn digwydd adeg cyhoeddiadau fel y rhain.
Roedd hyn wedi cynyddu'r sibrydion am ddyfodol y rheolwr Chris Coleman gan fod nifer wedi ei gysylltu gyda swydd wag rheolwr Crystal Palace, clwb y bu'n chwarae iddo yn ystod ei yrfa.
Yn y garfan ei hun y newyddion da yw bod y capten Ashley Williams wedi dychwelyd ar ôl anaf ac mae Gareth Bale ac Aaron Ramsey wedi eu henwi yn y garfan gyntaf i'w chyhoeddi ers ymddeoliad Craig Bellamy o bêl droed rhyngwladol.
Yno hefyd mae enw James Collins wedi iddo ddatrys anghydfod rhyngddo a Coleman, ac mae Ben Davies, Joe Allen a Joe Ledley hefyd yn dychwelyd ar ôl anafiadau.
Carfan Cymru v. Y Ffindir: Stadiwm Dinas Caerdydd; Tachwedd 16 :-
Golwyr: Wayne Hennessey - Wolverhampton Wanderers (ar fenthyg gyda Yeovil Town), Glyn Myhill - West Bromwich Albion, Owain Fôn Williams - Tranmere Rovers.
Amddiffynwyr: James Collins - West Ham United, Ben Davies - Abertawe, Chris Gunter - Reading, Ashley Richards - Abertawe (ar fenthyg gyda Huddersfield Town), Samuel Ricketts - Wolverhampton Wanderers, Neil Taylor - Abertawe, Rhys Wiggins - Charlton Athletic, Ashley Williams - Abertawe.
Canol cae: Joe Allen - Lerpwl, David Cotterill - Doncaster Rovers, Andrew Crofts - Brighton & Hove Albion, Andy King - Leicester City, Joe Ledley - Celtic, Aaron Ramsey - Arsenal, David Vaughan - Sunderland (ar fenthyg yn Nottingham Forest).
Blaenwyr: Gareth Bale - Real Madrid, Simon Church - Charlton Athletic, Jermaine Easter - Millwall, Hal Robson-Kanu - Reading, Sam Vokes - Burnley.
Wrth gefn: Steve Morison - Millwall, Joel Lynch - Huddersfield Town, Harry Wilson - Lerpwl, Shaun MacDonald - AFC Bournemouth, James Wilson - Bristol City (ar fenthyg yn Cheltenham Town), Lloyd Isgrove - Southampton, Owain Tudur Jones - Hibernian