Penodi Prif Gwnstabl newydd yng Ngwent

  • Cyhoeddwyd
Jeff Farrar
Disgrifiad o’r llun,
Cadarnhawyd penodiad Jeff Farrar fel Prif Gwnstabl newydd Heddlu Gwent

Mae Panel Heddlu a Throsedd Gwent wedi cadarnhau mai Jeff Farrar fydd prif gwnstabl newydd yr heddlu yno.

Roedd enw Mr Farrar wedi cael ei argymell gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent Ian Johnston, ac fe gytunodd y panel yn llwyr gyda'r penodiad.

Fe ddaeth yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gwent yn 2009 ac yn Ddirprwy Brif Gwnstabl yn Ebrill 2011.

Roedd cyn Brif Gwnstabl Heddlu Gwent Carmel Napier wedi gadael ei swydd ar Fehefin 7.

Roedd ei hymddeoliad yn ddadleuol gan i honiadau ddod i'r amlwg yn ddiweddarach ei bod wedi cael ei bwlio gan y Comisiynydd.

Bu'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartre' yn ymchwilio i amgylchiadau ymadawiad Ms Napier, ac fe gafodd Mr Johnston ei feirniadu gan rai aelodau seneddol.

Yn ddiweddarach mynnodd yntau nad oedd wedi cael gwrandawiad teg gan y pwyllgor.

'Cydweithio'n agos'

Croesawyd y penodiad gan y Cynghorydd Colin Mann, cadeirydd y panel, a dywedodd:

"Ar ran Panel Heddlu a Throsedd Gwent hoffwn longyfarch Mr Farrar ar ei benodiad, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio'n agos gyda'n gilydd yn y dyfodol.

"Bydd Mr Farrar yn gweithio gyda'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd i ystyried cyfeiriad strategol yr heddlu er mwyn sicrhau ei fod yn gweithredu er budd holl gymunedau Gwent."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol