Cwest: Marw lai na 24 awr wedi genedigaeth

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Maelor Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,
Rhoddodd Elizabeth Maddocks enedigaeth drwy lawdriniaeth Gesaraidd yn Ysbyty Maelor Wrecsam

Mae cwest wedi clywed sut y bu mam farw lai na 24 awr ar ôl rhoi genedigaeth i ferch fach.

Roedd Elizabeth Maddocks, 42 oed o Wrecsam, wedi cwyno bod ei choesau wedi chwyddo wedi iddi gael llawdriniaeth Gesaraidd ym mis Chwefror y llynedd yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Clywodd y cwest na chafodd unrhyw feddyginiaeth i deneuo'r gwaed am fwy na 12 awr wedi'r llawdriniaeth.

Yn ddiweddarach y noson honno, aeth yn sâl cyn marw o ganlyniad i geulad gwaed neu thrombosis yng ngwythiennau ei choes.

Adroddiad

Fe gyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr adroddiad oedd yn cynnwys nifer o argymhellion.

Er hynny, dywedodd Crwner Gogledd-ddwyrain Cymru David Lewis nad oedd wedi medru bod yn siŵr bod yr holl argymhellion wedi eu gweithredu.

Wrth gyhoeddi rheithfarn naratif dywedodd y byddai'n ysgrifennu at y bwrdd iechyd ynglŷn â'i bryderon.

'Osgoi'

Fe fydd yn gofyn am ymateb i'w lythyr ac mae'n disgwyl i'r ymateb fanylu ar ba wersi gafodd eu dysgu.

Ar ddiwedd y cwest cyhoeddodd teulu Elizabeth Maddocks ddatganiad drwy eu cyfreithiwr oedd yn dweud: "Mae Amy ac Oliver wedi colli eu mam. Ni fydd Lily fyth yn adnabod ei mam.

"Pe bai Liz wedi derbyn y gofal cywir, gellid fod wedi osgoi ei marwolaeth."

Mae BBC Ar-lein wedi gofyn i'r bwrdd iechyd am eu hymateb.