Bargyfreithiwr: dod o hyd i gorff

  • Cyhoeddwyd
Gianni Sonvico
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Gianni Sonvico ei weld y tro diwethaf ar Hydref 25

Mae'r heddlu sydd wedi bod yn chwilio am fargyfreithiwr fu ar goll ers mis Hydref wedi dod o hyd i gorff.

Bu Gianni Sonvico, yn wreiddiol o Wdig yn Sir Benfro ond yn byw yn Islington, ar goll ers dydd Gwener, Hydref 25.

Fe aeth i Ysgol y Preseli yng Nghrymych ac roedd yn gweithio i Gomisiwn y Gyfraith yn Llundain.

Dywedodd yr Uned Blismona Morol yn Llundain eu bod wedi cael eu galw oherwydd corff ger pier Greenwich tua 10:00am fore Gwener.

Cafodd Mr Sonvico ei weld y tro diwethaf yn ardal Tower Hill yn Llundain.

Mae ei deulu wedi cael clywed am y datblygiad diweddara'.

Ychwanegodd yr heddlu y byddai archwiliad post mortem maes o law.

Mae'r ymchwiliad i'w ddiflaniad yn parhau.