Rhyfel Mawr: Amgueddfa Cymru'n cynnal digwyddiadau am bedair blynedd

  • Cyhoeddwyd
Cofeb MametzFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Ym Mrwydr Coed Mametz cafodd 4,000 o Gymry eu lladd neu eu hanafu

Mae Amgueddfa Cymru'n cynnal digwyddiadau hyd at 2017 i goffáu'r Rhyfel Mawr.

Bydd y saith amgueddfa yn cyfeirio at effaith y rhyfel ar Gymru a'i phobl.

Ymhlith y digwyddiadau allweddol bydd brwydrau Coed Mametz a Passchendaele, marwolaeth Hedd Wyn a diwedd y rhyfel.

Dywedodd llefarydd y byddai staff yn canolbwyntio ar dair agwedd, "yn gynta', yr alwad i ryfel - sut a pham yr ymatebodd y Cymry, yn ail, byw trwy'r rhyfel - yr effaith ar y bobl gartref a'r rhai oedd yn brwydro neu'n gweithio ar faes y gad, ac yn ola', y newid yn sgil y rhyfel - newid sgiliau, agweddau a chredoau yng Nghymru".

Yng ngwanwyn 2014 bydd staff yn plannu cannoedd o hadau pabi yn y saith amgueddfa.

Myfyrio

Y gobaith yw y bydd y blodau'n atgof blynyddol yn ystod y cofio ac yn fan i gyfarfod a myfyrio.

Ar Awst 2 2014 y bydd yr arddangosfa gynta'n agor yn Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd a'i henw yw Ysbrydoli'r Ymdrech: Printiau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn yr arddangosfa bydd cyfres o brintiau lithograff a gomisiynwyd gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 i geisio ysbrydoli'r cyhoedd oedd wedi cael digon ar ryfel.

Cyfrannodd artistiaid nifer o ddelweddau sy'n dangos y newid agwedd, fel rôl y fenyw er enghraifft, yn ystod y rhyfel.

Ym Medi 2014 yn Amgueddfa Wlân Cymru bydd golwg ar ymgyrchu y diwydiant am gytundebau gwaith i gadw'r melinau ar agor, a defnyddio hunaniaeth Gymreig fel arf recriwtio.

Roedd Corfflu'r Fyddin Gymreig am ddilladu'r fyddin newydd mewn brethyn cartref, Brethyn Llwyd.

Hanesion cudd

Ond ni chafodd ei ddefnyddio erioed ar faes y gad.

O 2014 ymlaen bydd staff Sain Ffagan yn mynd ag ymwelwyr ar daith o amgylch Castell Sain Ffagan a'r gerddi i ddatguddio hanesion cudd y rhyfel.

Yn 2015 yn yr Amgueddfa Lechi bydd golwg ar ymateb cymunedau'r chwareli llechi i ymgyrchoedd recriwtio.

Mae ymchwil hanesyddol yn awgrymu bod y gefnogaeth yng Nghymru yn fwy llugoer nag yr oedd rhai yn ei feddwl.

Ddydd Sadwrn roedd gwasanaeth coffa ger Cofeb Ryfel Trecelyn yn yr Amgueddfa Werin.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol