Aber yn curo Airbus a TNS yn manteisio
- Cyhoeddwyd
Aberystwyth 2 - 1 Airbus UK
Mae Airbus wedi colli am y tro cyntaf y tro yma a bydd rhai yn synnu mai Aberystwyth ddaeth a'u record campus i ben.
Cafodd y tîm cartref ddechrau arbennig i'r gêm gyda goliau gan Mark Jones wedi dau funud yn cael ei ddilyn gan un arall gan Chris Venables yn fuan wedyn yn ei gwneud hi'n 2 - 0 gydag ychydig dros ugain munud ar y cloc.
Camgymeriad yn amddiffyn Airbus oedd yn bennaf gyfrifol am y gyntaf ond roedd gôl Venables yn un grefftus.
Fe wnaethon nhw reoli'r hanner cyntaf yn llwyr ond yn bwysicach na hynny fe lwyddon nhw i atal Airbus rhag dod yn ôl tan oedd hi'n rhy hwyr.
Sgoriodd Steve Abott i'r ymwelwyr ar ddiwedd y gêm ond doedd hynny ddim yn ddigon.
Mae'r fuddugoliaeth yn mynd ag Aber i'r chwech uchaf.
Y Seintiau Newydd 3 - 0 Y Rhyl
Roedd hi'n ddi-sgor nes i Kai Edwards sgorio chwarter awr fewn i'r ail hanner.
Mike Wilde a Chris Seargeant sgoriodd y ddwy arall.
Wnaeth TNS ddim edrych yn ôl wedi hynny a byddan nhw'n falch o'r fuddugoliaeth sy'n eu rhoi yn ol ar frig y tabl.
Mae'r pencampwyr wedi ennill eu chwe gem gartref gyntaf y tymor hwn heb ildio'r un gôl.
Cei Cona 0 - 4 Y Drenewydd
Cafodd Chris Hughes ddechrau campus i'w yrfa fel rheolwr y Drenewydd wrth i'w glwb roi cweir iawn i Cei Cona oddi cartref.
Matt Hearsey, Jeff White, Andy Jones and a Craig Williams gafodd y goliau.