Y Gweilch a'r Gleision yn colli
- Cyhoeddwyd
Gleision 16 - 21 Caerwrangon
Doedd hi ddim yn noson i gofio i'r Gleision ar Barc yr Arfau.
Er mai nhw sgoriodd y pwyntiau cyntaf i fynd 6 - 0 ar y blaen daeth Caerwrangon yn ôl gyda chryfder.
Daeth ceisiau gan Rob O'Donnell, James Stephenson and Max Stelling - i gyd wedi eu trosi gan Ignacio Mieres - i'w gwneud hi'n 6 - 21 ar yr egwyl.
Doedd cais Thomas Young a chic gosb Simon Humberstone ddim yn ddigon i'r Gleision, fydd yn siomedig i fod wedi colli eu gem cyntaf yng Nghwpan yr LV.
Fe wnaethon nhw'n dda i gael y pwynt bonws o ystyried bod ugain o'u chwaraewyr i ffwrdd gyda'u timau rhyngwladol.
Caerlyr 39 - 16 Gweilch
Os cafodd y Gleision noson sâl, fe gafodd y Gweilch un drychinebus.
Roedd y Teigrod mewn rheolaeth lwyr drwy gydol y gêm.
Cais Sam Williams oedd unig gysur y Gweilch, ond roedden nhw'n anhapus gyda'r penderfyniad i beidio â chosbi capten Caerlŷr Boris Stankovich am dacl uchel ar Joe Rees.
Straeon perthnasol
- 8 Tachwedd 2013