Gwenwyn wedi lledu ymhellach

  • Cyhoeddwyd
Llun o'r gwenwynFfynhonnell y llun, Emma lamport and Jo Rees
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r braster gwenwynig wedi ymddangos ar draethau yn yr ardal

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod braster gwenwynig sydd wedi ei ddarganfod ar draethau ym Mro Morgannwg wedi lledu ymhellach.

Mae pobl sydd efo cŵn yn cael eu rhybuddio i fod yn ofalus am ei fod yn achosi problemau os ydy'n cael ei fwyta.

Mae 'na nifer o gŵn wedi gorfod cael triniaeth frys gan filfeddygon wedi iddyn nhw fwyta'r braster.

Dywedodd CNC bod y braster nawr wedi ei ddarganfod yn Southerndown ym Mro Morgannwg, y Drenewydd yn Notais ger Porthcawl ac Oxwich a Llangynydd ar Benrhyn Gwyr.

Mae achosion tebyg wedi bod yng Nghernyw yn ddiweddar ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymryd samplau o'r gwenwyn.

Dywedodd y corff amgylcheddol y dylai pobl wneud yn siŵr nad ydy eu cŵn yn cyffwrdd y gwenwyn sydd yn cael ei ddisgrifio fel ryw fath o olew llysiau.

Er hynny, dywedodd y corff nad oedd y braster yn risg i bobl, cyn belled nad ydynt yn ei fwyta.

"Mae'n debygol bod 'na gysylltiad rhwng yr achosion yma a'r rhai ar arfordir gorllewin Lloegr dros y mis diwethaf," meddai llefarydd.

"Mi ddylai perchnogion cŵn fod yn wyliadwrus am fod anifeiliaid yn cael eu denu at y math yma o lygredd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol