Milwyr yn gorymdeithio am y tro olaf
- Cyhoeddwyd

Bydd cysylltiad milwyr Y Cymry Brenhinol gyda thref yng ngogledd Cymru yn dod i ben ddydd Sul.
Mae 70 o filwyr o'r 3ydd Bataliwn Y Cymry Brenhinol yn gadael eu barics yn Wrecsam fel rhan o newidiadau i'r fyddin.
Gwnaeth y milwyr eu hymddangosiad olaf yn y dref mewn Gwasanaeth Sul y Cofio wrth y gofeb Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.
Mae'r Fyddin wedi cadarnhau y bydd y barics yn aros ar agor, gyda'r 101 Bataliwn y Peirianwyr Trydanol a Mecanyddol Brenhinol yn symud i mewn.
Newidiadau
Cafodd Y Cymry Brenhinol ei sefydlu yn 2006 wrth i nifer o gatrodau, gan gynnwys Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig uno.
Bydd Y Cymry Brenhinol yn parhau i fodoli, gan ddefnyddio canolfannau yn Abertawe, Pontypridd a Bae Colwyn ar eu cyfer.
Milwyr wrth gefn sydd yn Wrecsam ar hyn o bryd, ac fe all rhai symud i'r Catrawd Trafnidiaeth Gymreig yn Queensferry, Sir Fflint.
Bydd eraill yn symud i'r ganolfan ym Mae Colwyn.
Bydd seremoni arbennig yn Queensferry ar Dachwedd 19 i groesawu aelodau newydd, lle bydd milwyr o sawl fataliwn, gan gynnwys y 3ydd o Wrecsam, yn uno i greu Sgwadron 398.
Fel rhan o'r newidiadau, bydd yr 2il Fataliwn yn dod i ben, wedi uniad gyda'r Bataliwn 1af.
Gorymdaith Penarth
Ddydd Sadwrn, roedd gorymdaith am y tro olaf gan filwyr o'r 2il Fataliwn ym Mhenarth, Bro Morgannwg, lle maent wedi cael rhyddid y Sir.
Dywedodd Maer Bro Morgannwg, Margaret Wilkinson: "Mae'n bwysig i'r Fro ddangos ein cefnogaeth i'r lluoedd arfog ac rydw i'n falch cael croeso'r Cymry Brenhinol yn ôl i'r ardal yma."
"Ar ran trigolion Bro Morgannwg, rydw i'n dymuno'r gorau iddyn nhw yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2012