Swydd newydd i Iain Moody
- Cyhoeddwyd

Mae cyn Bennaeth Recriwtio Clwb Pêl-Droed Caerdydd wedi ymuno â Crystal Palace fel Cyfarwyddwr Chwaraeon.
Collodd Iain Moody ei swydd yn Stadiwm y Ddinas Caerdydd wedi i'r perchennog benodi gŵr 23 oed o Kazakhstan, Alisher Apsalyamov yn ei le.
Roedd Moody wedi bod yn aelod o dîm rheoli Malky Mackay yn Watford cyn yr Adar Gleision, ac mae cyd-gadeirydd Palace, Steve Parish yn credu iddo gael y dyn cywir am y swydd.
Bydd Moody yn rhan o'r broses o ddewis rheolwr newydd i'r clwb o Lundain, swydd y mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi ei gysylltu gydag ef.
Coleman ar ei ffordd?
Dywedodd Steve Parish: "Rydym yn hapus iawn hefo Iain Moody. Wnes i gwrdd ag o ac fe wnaeth o argraff dda iawn."
"Mae recriwtio chwaraewyr yn hanfodol i glwb pêl-droed. Bydd yn gweithio yn agos gyda fi a'r rheolwr newydd pan fydd yn cael ei benodi.
"Mae Iain yn rhywun fydd yn cael ei holi fel rhan o ddewis rheolwr.
"Rydym eisiau penodi rhywun yn sydyn ond rhaid cael y person cywir."
Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman wedi cael ei gysylltu â'r swydd sawl gwaith.
Chwaraeodd Coleman i Palace rhwng 1991 a 1995, gan chwarae dros 150 o gemau, ond y gred yw ei fod mewn trafodaethau i ymestyn ei gytundeb gyda Chymru.
Straeon perthnasol
- 14 Hydref 2013
- 9 Hydref 2013