Sul y Cofio yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae digwyddiadau wedi eu cynnal ledled Cymru i gofio am filwyr sydd wedi marw ym mhob rhyfel ers y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae'r seremonïau yn coffau milwyr y gorffennol, a'r rheiny sy'n gwasanaethu'r wlad ar hyn o bryd.
Mae llong yr HMS Severn wedi teithio i Gasnewydd, lle bydd y criw yn rhan o'r seremoni cofio.
Dywedodd y prif weinidog ei fod yn bwysig cofio gwasanaeth ac ymroddiad y lluoedd arfog.
HMS Severn
Mae'r HMS Severn, sydd â chyswllt a Chasnewydd, wedi teithio i'r ddinas i gymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau ac ymweliadau.
Mae plant o ysgolion lleol wedi cael y cyfle i weld y llong, tra bod gwahoddedigion wedi bod mewn arddangosiad nos Sadwrn.
Dydd Sul, roedd y criw yn rhan o'r Gwasanaeth Sul y Cofio aeth ar orymdaith drwy'r ddinas at y senotaff.
Dywedodd yr Is-gomander Tim Berry: "Mae gennym ni berthynas agos gyda Chasnewydd ac mae'n fraint cael y gefnogaeth a'r croeso sy'n ein disgwyl yn y ddinas bob tro."
Yng Nghaerdydd roedd cynrychiolwyr o'r lluoedd arfog yn gorymdeithio i'r gofeb yng Ngerddi Alexandra ym Mharc Cathays, lle cafodd seremoni ei gynnal.
Roedd cyn filwyr yn bresennol i glywed Band a Chorfflu Drymiau Catrawd Brenhinol Cymru yn chwarae, cyn i fiwglwr ganu'r caniad olaf.
Yna clywodd y dorf gwn o Gatrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol, Casnewydd yn tanio i ddechrau dwy funud o dawelwch.
'Saib i gofio'
Cafodd torch ei osod wrth y gofeb gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones.
"Mae Sul y Cofio'n gyfle i bawb ohonom ystyried gwasanaeth, ymrwymiad ac ymroddiad ein lluoedd arfog," meddai.
"Mae'n bwysig iawn ein bod yn cymryd saib am ddwy funud o'n diwrnod heddiw i gofio am yr aberth a wnaed gan bobl gyffredin Cymru ar ein rhan dros y blynyddoedd.
"Y flwyddyn nesaf byddwn yn nodi can mlynedd ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, pan gollwyd miliynau o fywydau ifanc.
"Mae gennym raglen o ddigwyddiadau ar y gweill yng Nghymru i goffáu hyn.
"Mae'n bwysig ein bod yn trosglwyddo'r hanes hwn i genedlaethau'r dyfodol, fel na fydd eu haberth yn mynd yn angof."
Roedd nifer o seremonïau eraill, gan gynnwys un wrth gofeb y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Modhyfryd, Wrecsam, ac roedd Ysgrifennydd Cymru, David Jones yn y brif seremoni yn Whitehall, Llundain.
Dywedodd ei fod yn fraint cael cynrychioli Cymru yn y digwyddiad.
"Ar Sul y Cofio rydym yn sefyll gyda'n gilydd fel gwlad i gofio dewrder ac ymrwymiad ein dynion a merched mewn rhyfeloedd dros y byd."
Straeon perthnasol
- 9 Tachwedd 2013
- 18 Medi 2013