Canlyniadau Uwchgynghrair Pêl-droed Cymru
- Cyhoeddwyd
Bangor 0 - 1 Caerfyrddin
Roedd hi'n brynhawn llwyddiannus i Gaerfyrddin wrth iddyn nhw deithio i'r gogledd orllewin i wynebu Bangor ddydd Sadwrn.
Un gôl oedd ynddi mewn gem agos, Liam Thomas gafodd hi wedi awr o chwarae.
Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Caerfyrddin yn symud i'r drydydd safle yn y gynghrair.
Diwrnod siomedig i Fangor, ac maen nhw'n wynebu gem anodd arall yr wythnos nesaf, pan fyddant yn chwarae Airbus oddi cartref.
Prestatyn 1 - 2 Afan Lido
Roedd hi'n daith hir o Afan Lido i Brestatyn i'r ymwelwyr, ond bydd tri phwynt yn eu cysuro ar y ffordd yn ol.
Chris Hartland rhoddodd yr ymwelwyr ar y blaen wedi chwe munud o'r hanner cyntaf, a llwyddodd Afan Lido i gadw'r fantais hyd at yr egwyl.
Michael Parker sgoriodd i Brestatyn wedi 70 munud, ac roedd hi'n edrych fel gem gyfartal tan i gôl-geidwad Prestatyn, Jonathan Hill-Dunt weld cerdyn coch yn y munudau olaf.
Hartland ddaeth i gymryd y gic o'r smotyn a rhwydodd i roi buddugoliaeth werthfawr i Afan Lido.
Bala 0 - 0 Port Talbot
Roedd hi'n ddi-sgôr ar Faes Tegid rhwng y Bala a Phort Talbot.
Gyda'r ddau dîm yn hanner isaf y gynghrair byddai'r tri phwynt wedi bod yn ddefnyddiol i'r naill ochr, ond ni lwyddodd yr un i fanteisio brynhawn Sadwrn.
Mae pwynt yr un yn golygu bod Port Talbot a'r Bala yn parhau yn y 10fed a'r 11fed safle.