Wrecsam yn y rownd nesaf
- Published
image copyrightPA
Mae Wrecsam yn ail rownd Cwpan yr FA wedi dau gol gan Andy Bishop yn erbyn Alfreton.
Bishop roddodd ei dîm ar y blaen gyda pheniad o bêl Neil Ashton cyn iddo adio'r ail gyda chymorth Brett Ormerod.
Cyn ymosodwr Wrecsam, Jake Speight sgoriodd cic o'r smotyn i Alfreton yn dilyn trosedd Stephen Wright ar John Akinde.
Ond Jay Harris sgoriodd i sicrhau'r fuddugoliaeth wedi ergyd Brett Ormerod.
Braintree 1 - 1 Casnewydd
Bydd rhaid i Gasnewydd chwarae eto wedi gem gyfartal yn Braintree.
Chez Isaac rhoddodd y tîm cartref ar y blaen yn gynnar, ond rhwydodd Ryan Peters i'w gol ei hun yn fuan wedi'r egwyl i ddod a Casnewydd yn gyfartal.
Bydd Braintree, sy'n chwarae yn y Conference yn teithio i Rodney Parade ar gyfer y gêm nesaf.