Gatland: 'Gall Davies fethu'r Chwe Gwlad'
- Cyhoeddwyd
Gall canolwr Cymru Jonathan Davies fethu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi iddo gael anaf yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn.
Roedd rhaid i Davies, 25, adael y cae wedi llai na 15 munud wrth i Gymru golli o 15 - 24 yn erbyn y Springboks.
Bydd Davies yn methu gweddill cyfres yr Hydref, a dywedodd yr hyfforddwr Warren Gatland y gall fod allan am hyd at bum mis os yw angen llawdriniaeth.
Mae'r golled yn ergyd pellach i Gatland, sydd eisoes wedi colli canolwr arall, Jamie Roberts oherwydd anaf.
'Siom'
Cafodd Davies anaf i'w frest wrth geisio atal Jean de Villiers rhag sgorio'r cais agoriadol i'r Springboks yn Stadiwm y Mileniwm.
Dywedodd Gatland: "Os oes angen llawdriniaeth gall fod yn bum mis a bydd allan o'r Chwe Gwlad hefyd".
"Mae wedi ei siomi. Dywedodd y ffysio gall yr anaf setlo a gallai fod yn ôl erbyn Rhagfyr.
"Bydd rhaid i ni ddisgwyl i weld beth fydd yn digwydd."
Roedd rhaid i'r asgellwr Liam Williams, ddaeth mewn i'r tîm oherwydd anaf i Eli Walker, adael y cae yr un pryd wedi iddo gael ergyd i'w ben.
Ac fe gafodd y ddau brop Adam Jones a Scott Andrews anafiadau yn hwyrach yn y gêm.
Ergyd i'r garfan
Mae Gatland yn obeithiol y bydd Liam Williams yn holliach i wynebu'r Ariannin ddydd Sadwrn nesaf, ond mae Adam Jones yn annhebygol o chwarae.
Roedd y garfan eisoes heb nifer o chwaraewyr wrth i Jamie Roberts, Alex Cuthbert ac Eli Walker dynnu allan cyn y prawf cyntaf.
Mae'r anafiadau pellach yn rhoi mwy o broblemau i Gatland ar gyfer y gemau nesaf.
"Mae'r gêm wedi cael effaith ar y garfan ond dyna natur rygbi ac mae'n rhoi cyfle i rywun arall," meddai.
Mae pedwar chwaraewr wedi eu galw i'r garfan am weddill y gyfres.
Mae Cymru yn chwarae'r Ariannin ddydd Sadwrn Tachwedd 16, Tonga ar Dachwedd 22 ac Awstralia ar Dachwedd 30.
Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dechrau ym mis Chwefror, gyda gornest gyntaf Cymru yn erbyn yr Eidal ar Chwefror 1af.
Straeon perthnasol
- 10 Tachwedd 2013
- 9 Tachwedd 2013
- 7 Tachwedd 2013