Galw pedwar i garfan Cymru

  • Cyhoeddwyd
Tom Prydie
Disgrifiad o’r llun,
Tom Prydie yw un o'r pedwar sy'n ymuno a'r garfan

Mae Warren Gatland wedi galw pedwar chwaraewr i garfan Cymru wedi nifer o anafiadau yn y golled yn erbyn De Affrica.

Propiau'r Scarlets Samson Lee a Rhodri Jones sy'n ymuno a'r blaenwyr tra bod olwyr y Dreigiau, Hallam Amos a Tom Prydie hefyd yn cael lle yn y garfan.

Cafodd pedwar chwaraewr eu tynnu o'r cae wrth i'r Springboks guro yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.

Yn eu plith oedd y canolwr Jonathan Davies, fydd yn methu gweddill cyfres yr Hydref ac yn bosib Pencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd anaf i'w frest.

Mewn datganiad dywedodd Undeb Rygbi Cymru y bydd y chwaraewyr newydd yn dechrau hyfforddi gyda'r garfan yr wythnos hon.

Mae gêm nesaf Cymru yn erbyn yr Ariannin ddydd Sadwrn.

Daeth cadarnhad ddydd Sul na fyddai Jonathan Davies yn holliach ar gyfer gweddill y gyfres wedi'r anaf a gafodd wrth geisio taclo Jean de Villiers.

Dywedodd Warren Gatland y gall Davies fethu gemau'r Chwe Gwlad hefyd os bydd angen llawdriniaeth.

Adam Jones, Scott Andrews a Liam Williams oedd y chwaraewyr eraill i adael y cae yn erbyn y Springboks.

Mae Samson Lee wedi ennill cap i dîm dan 20 Cymru, tra bod ei gyd-chwaraewr i'r Scarlets Rhodri Jones wedi ennill dau gap i'r tîm hyn.

Prydie oedd chwaraewr ieuengaf Cymru pan wnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn 18 blwyddyn a 25 diwrnod yn 2010.

Dydy Hallam Amos heb chwarae dros ei wlad hyd yn hyn, ond mae wedi gwneud dechrau da i'r tymor gyda'r Dreigiau.