Gwrthdrawiad: Dyn wedi marw
- Published
Mae dyn 71 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic modur a bws yn Nant Peris.
Cafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd wedi'r gwrthdrawiad ar yr A4086.
Roedd y ffordd ar gau yn y ddau gyfeiriad gyda'r heddlu yn rheoli traffig.
Dywedodd yr heddlu bod y ffordd yn debygol o fod ar gau am weddill y prynhawn.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans: "Cawsom alwad am 12.39yh wedi adroddiadau o wrthdrawiad yn Nant Peris rhwng beic modur a bws."
"Cafodd dyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd gydag anafiadau difrifol."
Dywedodd yr heddlu nad oedd y dyn yn lleol, ac maent yn apelio am dystion.