Cymru 24 - 28 Ynysoedd Cook
- Published
Daeth Cwpan Rygbi 13 y Byd Cymru i ben gyda thrydydd colled yn erbyn yr Ynysoedd Cook ddydd Sul.
Wedi perfformiadau gwael hyd yn hyn yn y grŵp, rhoddodd y Cymry mwy o wrthwynebiad i'r tim o'r môr Tawel, ond 24 - 28 oedd y sgôr terfynol.
Dyma oedd buddugoliaeth gyntaf yr Ynysoedd yng Nghwpan y Byd, a hynny yn eu chweched gêm yn y gystadleuaeth.
Wedi iddyn nhw fod ar y blaen o 22 - 4 ar yr egwyl, roedd rhaid i'r Ynysoedd weithio yn galed i gadw'r Cymry allan tua diwedd y gêm.
Daeth ceisiau i'r Ynysoedd gan Keith Lulia, Isaac John, Daniel Fepuleai, Dominique Peyroux a Jonathon Ford, a chiciodd Chris Taripo pedwar gol.
Roedd hi'n dasg anodd i Gymru i ddod yn ôl wedi'r grasfa yn yr hanner cyntaf, ond daeth ceisiau gan Lloyd White, dwy gan Christiaan Roets ac un gan Rhodri Lloyd i roi gobaith i'r cochion.
Cafodd Cymru gyfleoedd, ond nid oedd digon o amser i fanteisio.
Mae'r golled yn golygu bod Cymru yn gorffen ar waelod y grŵp, wedi iddyn nhw golli i'r Eidal a'r Unol Daleithiau hefyd.
Cymru 24 - 28 Ynysoedd Cook
Straeon perthnasol
- Published
- 3 Tachwedd 2013
- Published
- 26 Hydref 2013