Abertawe 3 - 3 Stoke
- Cyhoeddwyd
Mae cic o'r smotyn mewn amser ychwanegol wedi cipio pwynt i Stoke yn Stadiwm y Liberty ddydd Sul.
Roedd Stoke ar y blaen o 2 - 0 ar yr egwyl, wedi i Jonathan Walters fanteisio ar daclo gwael a Stephen Ireland yn adio'r ail.
Ond daeth yr Elyrch yn ôl yn yr ail hanner gyda goliau gan Bony a Dyer.
Sgoriodd Bony beniad o agos cyn i Nathan Dyer ergydio i wneud y sgôr yn gyfartal.
Roedd Bony yn meddwl iddo sicrhau'r fuddugoliaeth gan sgorio o bêl Jonjo Shelvey wedi 86 munud.
Ond rhoddodd y dyfarnwr gic o'r smotyn yn erbyn Wayne Routledge am lawio'r bel o beniad Ryan Shawcross mewn amser ychwanegol.
Charlie Adam rhwydodd i'r gornel chwith.
Mae'r canlyniad yn gadael Abertawe yn y 13eg safle, un lle uwchben Caerdydd.