Safleoedd adeiladu: Traean yn 'beryglus'
- Published
Mae arferion peryglus yn digwydd ar bron i draean o safleoedd adeiladu yn ôl yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Mewn archwiliadau dirybudd ar 127 o safleoedd ym mis Medi doedd 40 ddim yn cyrraedd safonau diogelwch sylfaenol.
Mae'r undeb adeiladau Ucatt wedi dweud ei fod eisiau gweld mwy o archwiliadau'n digwydd er mwyn darganfod pa gwmnïau sydd ddim yn diogelu eu gweithwyr.
Does dim gwelliant wedi bod yn y gyfradd o safleoedd sydd yn gweithredu arferion diogel ers yr archwiliadau diwethaf ym mis Ebrill.
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch - sydd hefyd yn gyfrifol am gofnodi damweiniau angheuol - yn dweud fod pedwar wedi digwydd yng Nghymru'r flwyddyn hon yn barod.
Dim ond un achos oedd yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i gyd.
Er hynny mae'r cyfanswm o farwolaethau ar safleoedd wedi bod yn gostwng dros y blynyddoedd ar gyfer Cymru, yr Alban a Lloegr gyda'i gilydd.
Bu 39 o weithwyr farw rhwng Ebrill 2012 a Mawrth 2013 yn y tair gwlad - i lawr o 48 y flwyddyn flaenorol.
Dywedodd Nick Blundell, ysgrifennydd rhanbarthol de orllewin Cymru Ucatt:
"Wrth i'r dirwasgiad ddod i ben mae'r pwysau gwaith ar y diwydiant adeiladu yn cynyddu ac mae tebygolrwydd cryf y bydd marwolaethau ac anafiadau yn cynyddu os nad oes camau yn cael eu cymryd nawr er mwyn gwella diogelwch gweithwyr."
Straeon perthnasol
- Published
- 1 Medi 2010
- Published
- 18 Rhagfyr 2012