Coleman i barhau yn ei swydd
- Published
Mae'r BBC ar ddeall y bydd Chris Coleman yn parhau yn ei rôl fel rheolwr Cymru.
Mae'n bosib y bydd Cymdeithas bêl-droed Cymru'n gwneud cyhoeddiad cyn diwedd yr wythnos wedi i Coleman gadarnhau ei fod yn awyddus i ymestyn ei gytundeb.
Bydd ei gytundeb presennol yn dod i ben yn dilyn y gêm yn erbyn y Ffindir ar Tachwedd 16.
Mae enw Coleman wedi cael ei gysylltu gyda swydd wag hyfforddwr Crystal Palace yn ddiweddar.
Yn dilyn ymgyrch siomedig Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2014 roedd cwestiynau wedi eu codi ynglyn ag ai Coleman oedd y dyn iawn i arwain y wlad.
Gorffennodd Cymru'n bumed yn y grŵp - un safle o'r gwaelod - gyda 10 o bwyntiau ar ol tair buddugoliaeth, un gêm gyfartal a chwe cholled.
Ers hynny mae wedi bod yn amharod i ymrwymo'i hun i gytundeb pellach ond mae'n debyg ei fod wedi newid ei feddwl erbyn hyn.
Straeon perthnasol
- Published
- 8 Tachwedd 2013
- Published
- 6 Tachwedd 2013
- Published
- 5 Tachwedd 2013
- Published
- 17 Hydref 2013