Trafod hunaniaeth Cymru ym Marcelona
- Cyhoeddwyd

Mae cenedlaetholdeb yng Nghymru yn cael ei drafod dros y dŵr mewn cynhadledd ym Marcelona.
Fe drefnwyd y digwyddiad am fod partneriaeth newydd wedi datblygu rhwng prifysgol Abertawe ac Universitat Pompeu Fabra (UPF).
Yn ystod y diwrnod mi fydd academwyr yn trafod sut mae pobl Cymru wedi mynd ati i greu hunaniaeth i'r wlad heddiw ac yn y gorffennol.
Mi fydd ail ddigwyddiad, fydd yn canolbwyntio ar Gatalonia, yn cael ei gynnal ym mhrifysgol Abertawe ym mis Ebrill 2014.
Bydd arbenigwyr o Gymru yn cymryd rhan gan gynnwys siaradwyr o Brifysgol Abertawe.
Yn ôl y trefnwyr mae yna gymhariaethau rhwng y ddwy wlad am eu bod nhw wedi bod yn ceisio cael mwy o bwerau.
Mae Catalonia ar hyn o bryd yn trafod cynnal refferendwm i gael mwy o lais neu i fod yn annibynol.
Ac fe gyhoeddodd David Cameron wythnos diwethaf y bydd rhai trethi a phwerau benthyg yn cael eu rhoi i Gymru.
Dywedodd yr athro Mike Sullivan, Is-Lywydd Prifysgol Abertawe bod yna bethau yn gyffredin rhwng y ddwy brifysgol a'i bod eisiau cryfhau eu perthynas:
"Rydyn ni yn bwriadu defnyddio'r enghraifft yma o gydweithio gyda UPF er mwyn datblygu cysylltiadau eraill rhwng y ddwy brifysgol ac ar draws sawl maes.
"Mi fydd hyn yn golygu gwneud gwaith ymchwil ar y cyd a datblygu rhaglenni addysgu. Mi fydd hefyd yn golygu cyfleoedd buddsoddi newydd yn enwedig ar lefel Ewropeaidd."
Mae gan y brifysgol hefyd gysylltiadau efo prifysgolion yn Texas a Grenoble sydd wedi arwain at gydweithio o ran gwaith ymchwil.
Straeon perthnasol
- 5 Rhagfyr 2012
- 18 Mai 2013
- 9 Mai 2013