Tocynnau trên 'fwy fforddiadwy'

  • Cyhoeddwyd
Arriva trainFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Fel rhan o'r newidiadau mi fydd pobl yn medru prynu sawl tocyn am bris gostyngol

Bydd prisiau tocynnau trenau yn cynyddu llai yng Nghymru nac yn Lloegr y flwyddyn nesaf, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mi fyddan nhw yn ddrytach yn 2014 ond mi fydd y cynnydd yn llai na chwyddiant.

Mae hwn yn rhan o fesurau gan y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart. Y nod meddai'r llywodraeth ydy bod y tocynau yn fwy fforddiadwy a'i bod hi yn haws i brynu tocyn tren.

Mae'r gweinidog hefyd wedi cyhoeddi y bydd yna uchafswm ar faint bydd gwasanaeth Arriva yn cael codi eu prisiau.

Ym mis Ionawr 2014 y bydd y newidiadau yn cael eu gweithredu ac bydd yn cyd fynd efo newidiadau gan yr Adran Drafnidiaeth ar gyfer cwmnïau yn Lloegr sydd yn darparu gwasanaeth yng Nghymru.

Ni fydd hi'n bosib i drenau Arriva godi pris unigol tocyn fwy na 3%. 6% oedd yr uchafswm yn y gorffennol.

Yn sgil y cyhoeddiad bydd modd i bobl brynu sawl tocyn am bris gostyngol a bydd mwy o beiriannau tocynnau ar gael fel bod cwsmeriaid yn medru prynu eu tocynnau yn gynt.

Dywedodd Edwina Hart, y Gweinidog Trafnidiaeth: "Bydd cyhoeddiad heddiw yn helpu i sicrhau nad yw pris tocynnau trên yn cynyddu gormod a bydd hefyd yn sicrhau cysondeb â chynnydd mewn prisiau tocynnau dros y ffin.

"Mae'n bleser gen i gyhoeddi hefyd ein bod wedi cytuno ar wahanol fesurau â Threnau Arriva Cymru a fydd yn ei gwneud hi'n haws ac yn fwy fforddiadwy i bobl deithio ar y trên."