Damwain lori: teulu yn talu teyrnged

  • Cyhoeddwyd
Frank Ewen BremnerFfynhonnell y llun, Gwent Police
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Frank Ewen Bremner yn 59 oed

Mae teulu wedi talu teyrnged i yrrwr lori bu farw mewn damwain ar yr A40 yn agos i Raglan dydd Iau diwethaf.

Bu farw Frank Ewan Bremner, 59, a ddaw ardal Pontnewydd yn Nghwbran yn y damwain a ddigwyddodd o gwmpas 11yb. Doedd dim cerbydau eraill yn gysylltiedig â'r digwyddiad.

Meddai'r teulu: "Bydd ein bywydau ddim ru'n peth heb Frank, roedd yn dad, gwr, ewythr, brawd, mab a ffrind cariadus a chefnogol.

"Roedd pawb a oedd yn ei adnabod yn ei garu ac mae ei farwolaeth yn gadael gwagle anferthol yn ein bywydau, mi fyddwn yn ei golli yn fawr."