£450,000 er mwyn prynu gwaed o tu allan i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi gwario dros £450,000 er mwyn cael gafael ar waed o't tu allan i Gymru ers dechrau'r flwyddyn.
Yn ôl ffigyrau gafodd eu cyhoeddi o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth mae'r swm sydd yn cael ei dalu wedi codi yn flynyddol ers tair blynedd.
Gofynnwyd i'r gwasanaeth am y costau o'r flwyddyn 2010/11 tan 2013.
Y rheswm am y cynnydd, meddai Gwasanaeth Gwaed Cymru, ydy bod eu gweithwyr wedi bod yn cael eu hail hyfforddi am fod yna newidiadau yn digwydd o ran casglu gwaed pobl.
Mae'r datganiad yn dweud bod yr hyfforddiant yn un "cymhleth ac yn golygu cyfnod o amser fel bod staff yn medru cyfnerthu eu sgiliau".
Mae hynny wedi golygu bod llai o waed wedi bod yn cael ei gasglu yng Nghymru.
Dangosodd y ffigyrau bod:
- Dros £62,000 wedi ei wario yn 2010/11;
- Dros £129,000 yn 2011/12;
- Dros £318,000 yn 2012/13;
- Dros £460,000 tan y cyfnod presennol yn 2013.
Roedd y cais rhyddid gwybodaeth hefyd yn datgelu bod mwyafrif y gwaed sydd yn cael ei gasglu yn dal i fod yn waed gan bobl o Gymru.
Mae'r gwasanaeth yn dweud bod yr hyfforddiant bron wedi ei gwblhau i'w gweithwyr a bod stociau gwaed yn fwy sefydlog ar hyn o bryd.
Straeon perthnasol
- 7 Mai 2012
- 14 Mehefin 2011
- 29 Rhagfyr 2011