Cae chwarae newydd i Stadiwm y Mileniwm?
- Cyhoeddwyd

Mae BBC Cymru yn deall y gallai Undeb Rygbi Cymru benderfynu o fewn yr wythnosau nesaf beth y dylid ei wneud ynglŷn â chyflwr maes Stadiwm y Mileniwm.
Roedd y cae mewn cyflwr gwael yn ystod y gêm rhwng Cymru a De Affrica dydd Sadwrn, ac roedd hyfforddwr Cymru Warren Gatland yn anhapus.
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi bod yn ystyried tri opsiwn - cadw'r cae presennol, gosod cyfuniad o gae naturiol a chae artiffisial neu faes chwarae sy'n gwbl artiffisial.
Yn ôl y wybodaeth a ddaeth i law BBC Cymru bydd yn rhaid gwneud penderfyniad erbyn y Nadolig, er mwyn i bopeth fod yn barod ar gyfer Cystadleuaeth Cwpan y Byd yn 2015.
Pe bai'r Undeb yn penderfynu bod angen newid, mae'n debyg fydd y gwaith yn cael ei wneud yn ystod haf 2014, dros gyfnod o chwe wythnos.
Credir hefyd yn wyneb unrhyw newid y byddai'r undeb yn cadw'r paledi gwair rhag ofn y byddai angen gwair ar gyfer rhai achlysuron neu gystadlaethau penodol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2013