April: Euog o sylwadau sarhaus
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wnaeth sylwadau sarhaus am April Jones ar y we ac yna ffoi o afael yr awdurdodau wedi ymddangos yn y llys.
Fe wnaeth Gordon Mullen, 24 oed, o Salcoats yn Ayrshire wneud y sylwadau ar wefan Facebook ar ôl i'r ferch bump oed fynd ar goll ym mis Hydref y llynedd.
Roedd yr heddlu wedi bod yn chwilio am Mullen am bedwar mis.
Yn Llys y Siryf yn Kilmarnock fe wnaeth bledio'n euog i dorri'r Ddeddf Gyfathrebu.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd yn cael ei ddedfrydu fis nesa'.
Fe aeth April ar goll o'i chartref ym Machynlleth ar 1 Hydref 2012. Dyw'r awdurdodau heb ddod o hyd i'w chorff.
Fis diwethaf fe wnaeth Liam Young, 25 o Ardrossan, oedd yn wynebu cyhuddiadau ar y cyd gyda Mullen gael ei ddedfrydu i wneud 120 awr o waith di-dâl.
Roedd o wedi pledio'n euog i anfon sylwadau sarhaus ac anweddus am April.
Bu'r ddau ddyn mewn sgwrs gydag un person arall ar Facebook.
Clywodd y llys fod Mullen ac Ardossan wedi cystadlu gyda'i gilydd wrth wneud sylwadau sarhaus.
Ym mis Mai, cafodd Mark Bridger ei garcharu am oes yn Llys y Goron yr Wyddgrug o lofruddio a chipio April.
Straeon perthnasol
- 7 Hydref 2013
- 19 Awst 2013