Eisteddfod 2016 i Sir Fynwy?
- Cyhoeddwyd
Mae pwyllgor gwaith Cyngor Sir Fynwy wedi cytuno mewn egwyddor i wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol i'r sir yn 2016.
Dyma fydd y tro cyntaf i'r Brifwyl ymweld â'r sir ers 1913 pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Y Fenni.
Mae'r penderfyniad yn golygu y gall yr awdurdod ddechrau trafodaethau ffurfiol gyda'r Eisteddfod.
Yn 2009 fe ddaeth yr Eisteddfod i gytundeb gyda Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy'n golygu nad yw'r baich ariannol o gynnal y Brifwyl yn gorwedd ar ysgwyddau unrhyw sir yn unigol.
Does dim penderfyniad hyd yma am leoliad i'r Eisteddfod o fewn Sir Fynwy, ond mae'r awdurdod wedi dweud y byddan nhw'n gweithi'n galed i sicrhau y caiff buddion cynnal yr ŵyl eu lledaenu ledled y sir.
'Llawer o fanteision'
Dywedodd y Cynghorydd Phyl Hobson, aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am y Gymraeg:
"Dyma'r penderfyniad cywir i'n sir a'i phobl. Nid gormodiaith yw dweud y bydd Sir Fynwy dros gyfnod yr Eisteddfod yn ganolfan ddiwylliannol, ysbrydol a gwleidyddol Cymru.
"Mae llawer iawn o fanteision i groesawu'r Eisteddfod i'n sir. Bydd yn rhoi hwb miliynau o bunnau i'n heconomi; bydd yn ein rhoi ar y llwyfan Cymreig a rhyngwladol dros gyfnod yr ŵyl; bydd yn dod â ffigurau dylanwadol o Gymru ac yn rhyngwladol i'n sir a chawn waddol diwylliannol, economaidd a seilwaith fydd yn ein gwasanaethu am genedlaethau i ddod."
Ychwanegodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Peter Fox:
"Rwy'n falch iawn i ni wneud y penderfyniad yma ac mae'n addas ein bod yn gwneud hynny ganrif ar ôl y tro diwethaf y cynhaliwyd yr Eisteddfod yn ein sir. Mae Sir Fynwy yn rhan gyfannol o Gymru.
"Rydym yn borth i Gymru, rydym yn gyfrifol am gyfran sylweddol o dreftadaeth ddiwylliannol ein cenedl, ac roeddem yn un o ddim ond dau ran o Gymru lle bu cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y cyfrifiad diwethaf.
"Fel arweinydd y cyngor, edrychaf ymlaen at weld y manteision a ddaw yn sgil yr ŵyl. Rwyf hefyd yn falch y gallwn arddangos ein sir, ac ar yr un pryd arddangos diwylliant ein gwlad."
Straeon perthnasol
- 29 Hydref 2013
- 28 Hydref 2013
- 24 Hydref 2013