'Rhwystredig' am achosion o'r frech goch
- Published
Mae meddyg blaenllaw wedi bod yn siarad am ei rwystredigaeth wrth weld mwy o achosion o'r frech goch yn ne Cymru fisoedd yn unig wedi i epidemig arall ddod i ben.
Roedd Dr Jorg Hoffman o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn siarad ar drothwy cyhoeddi adroddiad i'r epidemig a barodd am wyth mis.
Rhwng Tachwedd 2012 a Mehefin eleni bu dros 1,200 o achosion tybiedig o'r frech goch yn ne, gorllewin a chanolbarth Cymru.
Mae nifer yr achosion newydd o'r clefyd a ddechreuodd mewn ysgol yng Nghastell-nedd bellach wedi codi i 36.
Bydd y ffigyrau diweddaraf am nifer y dioddefwyr hefyd yn cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach ddydd Mawrth.
Dywedodd Dr Hoffmann, ymgynghorydd mewn clefydau heintus gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) bod yr achosion newydd o ganlyniad i'r feirws yn dod i mewn i ardal Abertawe o'r tu allan i Gymru.
"Mae'n rhwystredig iawn," meddai. "Sawl gwaith rydym wedi ysgrifennu at bob meddyg teulu...ysgolion... gan ddweud 'rydym yn dal iweld y frech goch, rhaid i chi wirio statws brechiadau eich plant'."
Ychwanegodd Dr Hoffmann bod 35,000 o frechiadau ychwanegol wedi digwydd yn ardal Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn ystod yr epidemig diwethaf, ond bod nifer o bobl yn y grŵp oedran 10-18 yn dal heb gael y brechiad MMR pan yn blant bach.
Dywedodd hefyd bod y rhai a gafodd un dôs o'r brechiad gyda risg o 10% o gael y clefyd o hyd.
"Rwy'n credu bod y natur ddynol yn gwneud i rywun gredu bod y bygythiad wedi mynd," meddai.
"Rydym yn gweithio'n galed iawn i gyfyngu hyn. Dydyn ni ddim am weld yr hyn ddigwyddodd y llynedd yn cael ei ailadrodd."
Straeon perthnasol
- Published
- 7 Tachwedd 2013
- Published
- 24 Hydref 2013
- Published
- 14 Hydref 2013
- Published
- 7 Hydref 2013
- Published
- 5 Hydref 2013
- Published
- 3 Gorffennaf 2013