Cyllideb 'ddim yn cydfynd' â pholisïau

  • Cyhoeddwyd
ArianFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Nid yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â'i blaenoriaethau hi, medd un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Mae'r Pwyllgor Cyllid ym Mae Caerdydd wedi cyhoeddi adroddiad am y gyllideb ddrafft.

Fe luniwyd y gyllideb ddrafft ym mis Hydref.

Yn eu hadroddiad mae'r pwyllgor yn dweud nad yw'r gyllideb ddrafft yn cyd-fynd â rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru.

Mewn datganiad mae'r pwyllgor yn dweud "bod datganiadau gan Lywodraeth Cymru yn hawlio bod hon yn gyllideb ar gyfer 'swyddi a thwf'," ond bod mwy o arian wedi cael ei glustnodi ar gyfer gwasanaethau iechyd.

Bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddod i gytundeb gyda Phlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol er mwyn sicrhau cefnogaeth y ddwy blaid er mwyn pasio'r gyllideb drwy'r Senedd.

Ond mae'r Pwyllgor Cyllid am i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru gael eu hadlewyrchu a'u hamlygu'n gliriach yng nghynigion y gyllideb.

'Diffyg gwybodaeth ariannol'

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Jocelyn Davies AC:

"Mae'n ymddangos bod y gyllideb ddrafft a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn mynd yn groes i'r flaenoriaeth a nodwyd ganddi, sef 'swyddi a thwf,' gan ymrwymo mwy o gyllid i wasanaethau iechyd.

"Mae'r Pwyllgor yn cydnabod rhesymau'r Gweinidog Cyllid dros wneud penderfyniad o'r fath ond mae'n credu y dylai blaenoriaethau a chyllidebau'r Llywodraeth fod yn fwy cydnaws â'i gilydd.

"Rydym yn pryderu hefyd fod diffyg gwybodaeth ariannol am gyfreithiau sydd eisoes wedi dod i rym neu rai a fydd yn dod i rym dros y flwyddyn nesaf.

"Mae'r Pwyllgor yn ymwybodol fod mwy a mwy o ddeddfwriaeth ar y gorwel ac rydym yn credu ei bod yn hollbwysig i Lywodraeth Cymru wneud pob ymdrech i sicrhau bod arian yn y gyllideb i roi'r cyfreithiau hyn ar waith."

Argymhellion

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 22 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Croesawu'r gwelliannau i'r modd y caiff y gyllideb ei chyflwyno, ond yn argymell y dylid datblygu tryloywder
  • Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau mwy o dryloywder ynglŷn â phenderfyniadau i ail-flaenoriaethu. Dylid rhoi'r un faint o dryloywder i doriadau ag i ddyraniadau ychwanegol;
  • Dylai'r Pwyllgor Cyllid gynnal ymchwiliad i oblygiadau ariannol deddfwriaeth a basiwyd yn flaenorol gan y Cynulliad, a sut y mae hyn yn effeithio ar gyllideb Llywodraeth Cymru.

Ymateb

Mae Simon Thomas, AC Plaid Cymru, hefyd yn aelod o'r pwyllgor a dywedodd:

"Mae Plaid Cymru wedi dod i gytundeb gyda Llywodraeth Cymru y byddwn yn ymatal ein pleidlais ar y gyllideb er mwyn sicrhau cyllid ar gyfer disgyblion ychwanegol, pecyn gofal Agos at Adre a thriniaeth canser y prostad i ddynion ymysg pethau eraill.

"Heblaw hynny Llywodraeth Cymru biau'r gyllideb ac fe fydd Plaid Cymru'n craffu ei phenderfyniadau fel arfer.

"Gwers bwysig i'w dysgu o'r adroddiad yw bod angen mwy o dryloywder yn nhermau o ble mae'r arian yn dod wrth i weinidogion benderfynu blaenoriaethu rhai meysydd.

"Er enghraifft rydym yn chwilio am fwy o fanylion i effaith y toriadau ar y gyllideb i'r iaith Gymraeg a pha raglenni penodol fydd yn cael eu heffeithio."

Unig ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad hyd yma yw'r hyn y dywedodd llefarydd ar ei ran, sef:

"Fe fyddwn yn ystyried adroddiad a chanfyddiadau'r pwyllgor ac fe fydd y Gweinidog Cyllid yn ymateb i'r pwyllgor maes o law."