Staff ysbyty 'mewn panig' cyn marwolaeth

  • Cyhoeddwyd
Luke JenkinsFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Luke Jenkins lawdriniaeth ar ei galon yn Ysbyty Plant Bryste

Mae tad i fachgen fu farw yn dilyn llawdriniaeth ar y galon wedi dweud wrth gwest bod diffyg trefn ymysg staff yn ysbyty lle cafodd ei drin.

Cafodd Luke Jenkins, 7 oed o Gaerdydd, lawdriniaeth lwyddiannus ar ei galon yn Ysbyty Plant Bryste ar Fawrth 30, 2012.

Wedi'r llawdriniaeth, dywedodd Stephen Jenkins mai dim ond "gwiriadau o bryd i'w gilydd" a gafodd ei fab cyn diodde' ataliad ar y galon, a bod staff wedyn "wedi mynd i banig".

Mae disgwyl i'r cwest yn Llys Crwner Avon i bara am bythefnos.

Roedd disgwyl i Luke, a gafodd ei eni gyda nam ar ei galon, wella'n llwyr wedi iddo gael llawdriniaeth i gywiro'r cyflwr.

'Poenau'

Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd Mr Jenkins ei fod yn credu y byddai ei fab yn treulio tua thri diwrnod mewn uned gofal dwys wedi'r llawdriniaeth, ond ei fod wedi cael ei drosglwyddo i ward 32 y diwrnod canlynol.

Ar y ward yna dywedodd Mr Jenkins ei fod ef a'i bartner "yn bryderus nad oedd Luke yn derbyn y lefel priodol o ofal, ac fe wnaethon ni ofyn iddo gael dychwelyd i'r uned gofal dwys i blant".

"Gwrthodwyd y cais ac fe arhosodd ar Ward 32."

Ar Ebrill 2 roedd Luke Jenkins wedi cwyno am boenau yn eu stumog, a'r diwrnod canlynol dywedodd ei dad ei fod yn ymddangos yn ddistaw.

Roedd wedi gofyn am gyffuriau atal poen i'w fab am nad oedd y nyrsys yn ei wirio'n gyson.

Clywodd y llys bod Luke wedi cwyno am boenau drwg yn ei frest ar Ebrill 6, ond cyn i feddygon fedru ymchwilio i hynny fe ddioddefodd ataliad ar y galon.

'Dim trefn'

Ychwanegodd Mr Jenkins: "Rydym yn credu ei bod wedi cymryd rhwng 6 ac 8 munud cyn i'r larwm ganu ac roeddem wedi ein gadael yn rhoi masg ocsigen dros ei wyneb.

"Doedd dim trefn i'w weld ac roedd pawb yn ymddangos mewn panig.

"Pan ddaeth y tîm adfywio roedd un o'r meddygon yn ymddangos yn gynhyrfus gan ofyn i staff beth oedd wedi digwydd.

"Yna fe ddywedon nhw ei fod yn wirioneddol sâl a'i bod yn bosib na fyddai'n goroesi."

Cafodd Luke ei symud yn ôl i'r uned gofal dwys, ond ar Ebrill 9 fe wnaeth Mr Jenkins a'i bartner Faye Valentine y penderfyniad i ddiffodd y peiriant cynnal bywyd.

Mae'r cwest yn parhau.