Jonathan Davies yn ymuno â Clermont
- Cyhoeddwyd

Mae canolwr Cymru, Jonathan Davies wedi arwyddo cytundeb gyda'r clwb o Ffrainc Clermont Auvergne.
Mi fydd y cytundeb yn para dwy flynedd.
Ar hyn o bryd mae'r dyn 25 oed yn chwarae gyda'r Scarlets. Ond mae'n dilyn ôl traed nifer o chwaraewyr eraill Cymru trwy fynd i chwarae dros y dŵr gan gynnwys Jamie Roberts a Dan Lydiate.
Mae'r canolwr wedi bod yn chwarae dros Gymru ers 2009 ac fe gafodd ei ddewis yn nhîm y Llewod ar gyfer ei thaith i Awstralia eleni.
Ddydd Sadwrn roedd yn gwisgo'r crys coch ar gyfer y gêm yn erbyn De Affrica. Ond mi gafodd anaf i'w frest ar ôl 15 munud wnaeth olygu ei fod wedi gorfod gadael y cae.
Does dim disgwyl iddo allu chwarae rhan yng ngweddill cyfres yr Hydref ac mae'n bosib na fydd o'n holliach ar gyfer pencampwriaeth y chwe gwlad chwaith.
'Ar gael i Gymru'
Bydd Davies yn symud i Ffrainc ar ddiwedd y tymor presennol gan ymuno a'r Cymro Lee Byrne yn Clermont.
Dywedodd cyfarwyddwr clwb Clermont, Jean-Marc Lhermet: "Mae ei broffil yn ffitio'r gêm yr ydym yn ei chwarae.
"Rydym wrth ein bodd yn croesawu Jonathan i'r clwb."
Roedd hyfforddwr cynorthwyol Cymru Rob Howley yn prysuro i dawelu ofnau cefnogwyr bod y trosglwyddiad yn golygu na fyddai Davies ar gael i Gymru ar adegau gan ddweud:
"Mae ganddo gytundeb sy'n ei rhyddhau yn llawn ar gyfer gemau rhyngwladol yn debyg i Jamie Roberts a Dan Lydiate (y ddau gyda Racing Metro), felly fe fyddai ar gael i chwarae dros Gymru yng ngemau'r hydref er enghraifft."
Roedd hyfforddwr y Scarlets Simon Easterby yn credu bod y penderfyniad wedi bod yn un anodd i Davies, gan ddweud:
"Mae e wastad wedi ymfalchïo bod ei wreiddiau rygbi yng ngorllewin Cymru ac rwy'n gwybod fod hwn wedi bod yn benderfyniad anodd iawn iddo - un lle mae'r pen yn rheoli'r galon.
"Mae ei ymrwymiad i'r rhanbarth dros gyfnod cynnar ei yrfa wedi bod yn amlwg, ac rwy'n gwybod y bydd am gadw cysylltiad agos gyda'r Scarlets yn awr ac yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2013