Gorymdaith eliffantod yn dod i Gaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Alex JonesFfynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,
Alex Jones yw un o'r rhai sydd wedi dylunio un o'r eliffantod

Fe fydd yna gerfluniau o eliffantod i'w gweld mewn lleoliadau ar draws Caerdydd sydd wedi eu dylunio gan arlunwyr ac enwogion.

Y bwriad ydy codi ymwybyddiaeth o'r angen i warchod eliffantod ac i edrych ar eu hôl. Mae'r orymdaith hefyd yn ffordd i godi arian sydd yn cael ei rhoi i elusen gadwraeth, Sefydliad Eliffantod Asia.

14 o eliffantod fydd i'w gweld yn y brifddinas ac fe fyddan nhw yno am dair wythnos.

Yna bydd y cerfluniau yn teithio i Glasgow yn yr Alban.

Mae'r eliffantod wedi bod yn teithio ar draws Prydain ers mis Gorffennaf gan gychwyn yn Watford.

Creadigol

Bydd eu taith yn dod i ben yng nghanol Llundain yn yr haf.

Yn y gorffennol mae'r orymdaith o eliffantod wedi teithio i ddinasoedd ar draws y byd gan gynnwys Amsterdam, Copenhagen a Singapore.

Mae arlunwyr a phobl enwog wedi dylunio'r 14 o eliffantod gan gynnwys yr artist o Gymru Peter Fowler a'r gyflwynwraig deledu, Alex Jones.

Dywedodd Alex Jones: "Mae gorymdaith genedlaethol yr eliffantod yn gynllun creadigol lliwgar sydd yn cefnogi achos da.

"Fe fydd pobl ar draws Prydain hefyd yn medru gweld yr eliffantod felly dw i wrth fy modd fod yr eliffantod yn dod i Gymru."

Bydd yr eliffantod i'w gweld yn wyth o safleoedd eiconig Caerdydd sef y Llyfrgell Ganolog, Canolfan y Mileniwm, Neuadd Dewi Sant, Canolfan Dewi Sant, Theatr Seremoni, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Techniquest a Chanolfan Dŵr gwyn rhyngwladol Caerdydd.